Y Tŷ Gwerin yw cartref pob math o weithgareddau gwerin ar y faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

Mae’r amserlen yn llawn gweithgareddau sy’n ymwneud â thraddodiadau gwerin Cymru yn yr ystyr ehangaf bosibl, gyda chyfle i fwynhau rhai o’n traddodiadau cynhenid mewn ffordd newydd, yn ogystal â sesiynau ar bynciau cyffredinol.

 

Yn ogystal, ceir nifer o weithgareddau gyda’r nos yn y Tŷ Gwerin – cyfle i ymlacio ar ddiwedd y dydd yng nghwmni rhai o gerddorion a pherfformwyr blaenaf y sîn heddiw.

 

Lleolir y Tŷ Gwerin yn ardal yr Eglwys Norwyaidd ac mae mynediad i’r gweithgareddau i gyd yn rhad ac am ddim.

 

Partneriaid: Trac, Clera & Cymdeithas Ddawns Werin Cymru

 

Cefnogir gan Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

Mae cymaint o ddigwyddiadau llenyddol yn digwydd ar draws amryw o leoliadau’n Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yng Nghaerdydd fis Awst. Dyma’r rhai fydd mlaen yn y Tŷ Gwerin:

 

Dydd Llun 6 Awst

13:00-13:40 Guto Dafis: Straeon a chaneuon o Forgannwg

Dydd Mawrth 7 Awst

13:00-13:40 ‘12:40 Cyst 149. Dweud Stori’

14:15-15:15 Hwylio’r Chwedlau: Sioned Webb a Mair Tomos Ifans

Dydd Iau 9 Awst

5:30 – 20:15 Y Stomp Fawr Werin

Gallwch gymryd golwg ar yr amserlen lawn fan hyn.