Nid ysgrifennu barddoniaeth, ffuglen a chofiant am ddyddiau ar lan y môr a phorthladdoedd diogel yn unig, ond y môr go iawn hwnnw sy’n gorchuddio dau draean o arwyneb ein daear.

Ymunwch â ni a phrofwch greadigrwydd gweithdai â thema Anne-Marie Fyfe lle bydd tasgau a sgwrsio, ymarferion dan arweiniad a ffynonellau ysbrydoliaeth (o lenyddiaeth, y celfyddydau gweledol a’r byd ehangach) yn tanio’ch ysgrifennu a’ch annog i gynhyrchu canlyniadau go iawn o ran gwaith wedi’i gwblhau a drafftiau newydd (ac yn llenwi’ch pen â syniadau a chyfeiriadau newydd!) …yn ogystal ag amser i ddarllen yn ôl i gyd-feirdd brwd a derbyn adborth cadarnhaol ganddynt.

Cewch hefyd gyngor ar feirniadu’ch gwaith eich hun, golygu a defnyddio dull gweithdy gydag ysgrifenwyr eraill. Bydd ysgrifenwyr hefyd yn cael y cyfle i ddarllen fel rhan o berfformiad prynhawn Anne-Marie, The Voyage Out.