Mae prinder nofelau ar gyfer oedolion ifanc yn y Gymraeg, a’r gobaith gyda’r cwrs byr hwn yw ysbrydoli a chynorthwyo awduron i greu gwaith fydd yn denu a chyfareddu pobl ifanc 13-18 oed. Sut mae dod o hyd i’r syniad cychwynnol? Sut mae strwythuro, creu cymeriad a chyfleu emosiwn? Beth am arddull a lefel yr iaith? Pa themâu sy’n berthnasol i’r gynulleidfa? Gyda thasgau ysgrifennu amrywiol a digon o baneidiau a sgwrsio, byddwch yn siŵr o fwynhau cwmni’r tiwtoriaid, ac yn mynd adref gyda chwip o gynllun neu bennod gyntaf nofel – a thân yn eich bol i ddal ati.

Bethan Gwanas a Lleucu Roberts fydd yn tiwtora’r penwythnos. Mae Bethan Gwanas yn awdur dros 30 o lyfrau i blant ac oedolion, a golygydd a thiwtor ysgrifennu profiadol. Mae wedi ennill gwobr Tir na N-Og am ei llyfrau i’r arddegau ddwywaith – y tro cyntaf yn 2001 gyda Llinyn Trôns yna’r eildro yn 2003 gyda Sgôr. Bethan oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T Llew Jones am nofel i blant 10-12 oed gyda Gwylliaid. Mae Lleucu Roberts yn gwneud bywoliaeth drwy ysgrifennu nofelau, sgriptio ar gyfer teledu a chyfieithu. Mae hi wedi enill gwobr Tir na n-Og ar sawl achlysur ac enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio’r ddwy brif wobr ryddiaeth yr un flwyddyn.