Yn dilyn ei lwyddiant gyda’r nofel Ymbelydredd (Y Lolfa) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016, bydd y Prifardd Guto Dafydd, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, yn sgwrsio am ei ffuglen a’i farddoniaeth gyda’i gyd-nofelydd, yr Athro Angharad Price.   Digwyddiad drwy gyfrwng y Gymraeg ac ni fydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.   Digwyddiad am ddim ond bydd angen tocyn