Dyma estyn gwahoddiad ichi fynychu sgwrs flynyddol gyntaf Cymdeithas John Gwilym Jones. Testun y sgwrs eleni fydd gwaddol y dyn ei hun, gwaddol John Gwil. Fe’i traddodir gan y cyn-weinidog llywodraeth a chyn-fyfyriwr i John Gwil ei hun, Alun Ffred. Fe’i cynhelir yn Neuadd Mathias, Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor am 19:30 ar Ragfyr yr 2il. £3 yw tocyn sy’n cynnwys gwin cynnes am ddim. Ni fydd angen archebu tocyn o flaen llaw.