Bydd y gweithdy yn cychwyn wrth drafod sut rydym yn cysylltu ein hunaniaeth â'r llefydd rydym wedi byw a'n synnwyr o'n hunain.
Yna ceir cyfle i ddarllen a trafod barddoniaeth sy'n trafod y pynciau hyn ac yna bydd cyfle i ysgrifennu barddoniaeth eich hun. Mae'r Americanes, Carrie Etter, wedi byw yn Lloegr ers 2001 ac wedi cyhoeddi 3 casgliad o farddoniaeth a chasgliad o straeon byrion. Mae'n dysgu ym Mhrifysgol Bath Spa. Tocynnau: £10 (Pris llawn), £7 (Gostyngiadau), £4 (PTL)