Bydd Barddas yn cynnal ei phedwaredd Gŵyl Gerallt ar 23 Mehefin gyda diwrnod cyfan o weithgareddau, lansiadau llyfrau, cyflwyniadau ac adloniant. Caerdydd fydd cartre’r ŵyl eleni gyda’r holl sesiynau yn cael eu cynnal yn Yr Hen Lyfrgell yn Yr Ais. Gweithgaredd i’r teulu fydd yn agor yr ŵyl gyda Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam, yn cynnal seiswn hwyliog i blant.

Bydd lansiadau dwy gyfrol newydd sbon gan Cyhoeddiadau Barddas. Casgliad o gerddi’r diweddar Tony Bianchi yw Rhwng Pladur A Blaguryn. Dyma’r gyfrol olaf i Tony weithio arni, cyn ei farwolaeth fis Gorffennaf y llynedd. Ei ddymuniad oedd casglu ei gerddi ynghyd a’u cyhoeddi mewn cyfrol. Fe roddwyd y dasg o lywio’r gyfrol drwy’r wasg i’w gyfaill, y Prifardd T. James Jones. Mae’r cyfan o’r cynnyrch yn nodweddiadol o waith Tony, yn gyfuniad o’r craff a’r crafog. Cyhoeddir yma am y tro cyntaf ddwy bryddest a osodwyd yn y dosbarth cyntaf gan feirniaid cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Môn y llynedd. Bydd y sesiwn yng Ngŵyl Gerallt yng ngofal T. James Jones a Jon Gower.

Cyfrol arall sy’n cael ei chyhoeddi gan Cyhoeddiadau Barddas yr haf hwn yw Bragdy’r Beirdd. Wedi ‘i golygu gan y Prifardd Osian Rhys Jones a Llŷr Gwyn Lewis, dyma gyfrol fywiog sy’n rhoi blas o fwrlwm nosweithiau barddoniaeth fyw Bragdy’r Beirdd yn y Brifddinas. Mae’r gyfrol yn cynnwys tua 30 o gerddi gorau Bragdy’r Beirdd gan rai o feirdd y Bragdy: Catrin Dafydd, Rhys Iorwerth, Gruffudd Owen, Casia Wiliam, Gwennan Evans, Anni Llŷn, Gruffudd Antur, Llŷr Gwyn Lewis, Osian Rhys Jones yn ogystal â cherddi comisiwn newydd. Bydd nifer o’r beirdd yn ymuno â Llŷr Gwyn Lewis ar gyfer y sesiwn hon yn yr Hen Lyfrgell.

Bydd yr ŵyl hefyd yn gyfle i groesawu aelodau newydd i’r Gymdeithas Gerdd Dafod. Bydd Golygydd Cylchgrawn Barddas Twm Morys yn cynnal sesiwn yng nghwmni rhai o golofnwyr y cylchgrawn sy’n cael ei gyhoeddi bedair gwaith y flwyddyn.

Sefydlwyd Gŵyl Gerallt i goffáu Gerallt Lloyd Owen, a fu ynghanol hanes a gweithgaredd Barddas o’r cychwyn cyntaf. Ac fel y byddai Gerallt ei hun yn awyddus iddi fod, gŵyl sy’n dathlu barddoniaeth heddiw ydi hon. Ac mae meithrin talentau’r dyfodol yn holl bwysig i’r Gymdeithas Gerdd Dafod. I gloi Gŵyl Gerallt eleni, bydd pedwar bardd ifanc yn cyflwyno’u cerddi.  Morgan Owen oedd enillydd un o dlysau Barddas, Gwobr Goffa D Gwyn Evans yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y llynedd, a’r gwanwyn hwn, derbyniodd nawdd o Gronfa Gerallt i fynychu Cwrs Cynganeddu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Judith Musker Turner gipiodd gadair Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch eleni, ac mae hithau hefyd wedi mynychu’r Cwrs Cynganeddu yn Nhŷ Newydd. Mae Miriam Elin Jones yn un o Gywion Cranogwen –  criw o chwech o ferched sy’n cynnal nosweithiau barddoniaeth ar hyd a lled Cymru. Mae hi hefyd yn un o olygyddion cylchgrawn Y Stamp. Ac yn ymuno â’r tri bydd Carwyn Eckley, enillydd cadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 2017. Ac roedd Carwyn yn ail am y gadair ym Mhrifwyl Yr Urdd y llynedd hefyd.

 

Tocyn dydd – £6

Tocyn teulu ar gyfer sesiwn Bardd Plant Cymru yn unig – £2

Mynediad am ddim i aelodau Barddas.

 

Meddai Cadeirydd Barddas, y Prifardd Aneirin Karadog :

“Mae’n destun balchder i Barddas fod Gŵyl Gerallt yn ei phedwaredd blwyddyn bellach, a’i bod hi’n ymweld â gwahanol lefydd yng Nghymru o flwyddyn i flwyddyn.  Mae’n rhan gyffrous a chreiddiol o genhadaeth y Gymdeithas Gerdd Dafod i hybu barddoni a chynganeddu ac i ymdrechu i ehangu cynulleidfaoedd barddoni yn Gymraeg ”