Sesiwn yng nghwmni Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a’r bardd, perfformiwr ac addysgwr clare.e.potter yn cyflwyno profiadau rhai o ddinasyddion diweddaraf Caerdydd. Bu’r ddau yn gweithio hefo Salmeen Alshaibani a Tania Mohamad Shawri, awduron sydd wedi gorfod ffoi o ‘hen wlad eu tadau’ hwythau gan geisio lloches ac ymgartrefu yn ein prifddinas ni. Clywn gyfieithiadau o’u gwaith nhw a cherddi newydd gan Ifor a Claire wedi eu hysbrydoli gan y broses o gydweithio. Trefnwyd y digwyddiad yma gan Llenyddiaeth Cymru.