Cywaith creadigol unigryw yn plethu gwaith celf y diweddar Aneurin Jones ac ysgrifennu Caryl Lewis. Trwy gyfres o 12 darlun a thrac sain, cewch eich cludo ar daith o gwmpas cefen gwlad gorllewin Cymru, a phrofi pobol y tir yn eu gogoniant a’u gwendid. Lleisiau pobl dalgylch Aberteifi sydd i’w clywed yn yr ymsonau, sgetsys a straeon byrion. Bydd rhai ohonynt yn ddarlleniadau byw o’r llwyfan. Bydd sgwrs yn dilyn y cyflwyniad, gyda mab Aneurin, Meirion Jones yn ymuno.

Cafodd y prosiect ei gomisiynu’n wreiddiol gan Gŵyl y Cynhaeaf, Aberteifi, a dyma’r eilwaith yn unig iddo gael ei gyflwyno’n fyw. Cynhyrchwyd y traciau sain gan Wyn Jones a Lee Mason o Recordiau Fflach.

Mewn cydweithrediad â Gŵyl y Cynhaeaf.