Bydd Theatr Iolo yn cynnal gweithdai ‘cwrdd â’r awduron’ ledled Cymru ym mis Mehefin eleni.

Wrth i ni baratoi i groesawu Cyfarwyddwr Artistig newydd, rydym yn annog awduron newydd a phrofiadol i ystyried ysgrifennu mwy o ddarnau theatr i bobl ifanc fel y gallwn ni barhau i gyflwyno profiadau theatrig cyffrous yn ystod y 30 mlynedd nesaf.

Byddwn yn cynnig dau weithdy, i awduron â gwahanol lefelau o brofiad, yn canolbwyntio ar ysgrifennu theatr i bobl ifanc. Bydd gweithdy’ bore ar gyfer ysgrifenwyr nad ydynt wedi ysgrifennu ar gyfer y llwyfan o’r blaen, yn canolbwyntio ar greu cymeriadau a chyffro ar y llwyfan. Bydd gweithdy’r prynhawn ar gyfer awduron mwy profiadol, yn ymdrin â chreu a datblygu syniadau. Cadwch le heddiw (dolen Eventbrite) a dewch i ddweud helo.

  • 27 Mehefin Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Aberatawe, SA2 8PZ
  • 28 Mehefin Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, CH7 1YA
  • 29 Mehefin Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, SY23 3DE
  • 2 Gorffennaf Sefydliad y Glowyr, Y Coed Duon, NP12 1AA

Bydd y gweithdai’n rhedeg o 10.30am – 1pm & 2.00pm – 4pm

Llefydd cyfynedig sydd ar gael. Am ddim.

Dyddiad cau ar gyfer cadw lle: Dydd Iau, 21 Mehefin