FRÂN WEN YN CHWILIO AM DALENT ‘SGWENNU A CHYFARWYDDO IFANC

 

Mae Sgript i Lwyfan yn ei ôl eto eleni gyda hyd yn oed mwy o gyfleon a phrofiadau cyffrous i bobl ifanc.

 

Oes gen ti rywbeth i’w ddweud?

Oes gen ti syniad am ddarn o theatr yn llechu mewn drôr yn rhywle?

Oes gen ti ddiddordeb mewn gwthio ffiniau theatr Cymraeg?

 

Wyt ti rhwng 16 a 25 oed ac eisiau cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i ddatblygu dy syniadau ymhellach? Efallai mai dyma’r prosiect i ti…

 

Dyma gyfle gwerthfawr i 6 sgwennwr a 6 cyfarwyddwr ifanc disglair gydweithio gyda Frân Wen a Chanolfan Ysgrifennu Creadigol Ty Newydd i ddatblygu gwaith newydd dan gyfarwyddyd mentoriaid, dramodwyr, cyfarwyddwyr ac actorion profiadol.

 

SESIYNAU BLASU

 

Mae 2 sesiwn blasu arbenigol wedi eu trefnu – un ar gyfer cyfarwyddwyr sydd yn cael ei arwain gan y cyfarwyddwr profiadol Gethin Evans, ac un i ‘sgwennwyr dan arweiniad y gwneuthurwr theatr Branwen Davies.

 

15 Gorffennaf

Sesiwn Cyfarwyddo gyda Gethin Evans

Frân Wen, Porthaethwy

2pm – 5pm

 

29 Gorffennaf

Sesiwn ‘Sgwennu gyda Branwen Davies

Frân Wen, Porthaethwy

2pm – 5pm

 

Diddordeb mewn cymryd rhan? Cofrestrwch drwy www.franwen.com/sesiynau-blasu-sgript-i-lwyfan/

 

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs cysylltwch â fi Mari ar 01248 715048 neu mari@franwen.com

 

Mae’r digwyddiadau blasu yma yn gweithredu polisi TALWCH BE FEDRWCH.