Dewch i fwynhau llyfrau dwyieithog Atebol, mewn sesiwn stori a symud gyda’r actores Karen Elli, sy’n fwy adnabyddus fel Heini ar sianel blant S4C, CYW. Bydd y pwyslais ar hwyl a rhyngweithio, bydd plant iau yn dysgu nad oes yn rhaid iddynt eistedd lawr yn llonydd i allu mwynhau stori a byddwn yn profi nad oes yn rhaid i ddysgu fod yn ‘boring’ bob amser! Mae croeso arbennig i rieni Saesneg eu hiaith sydd â phlant sy’n siarad Cymraeg.