Sefydlwyd Gŵyl WOW- Women of the World, yn 2010 gan Gyfarwyddwr Artistig Soutbank Centre, Jude Kelly CBE, a dyma’r cynulliad fwyaf o ferched a menywod ar draws y byd, sydd eisioes wedi cyrraedd dros 2 filiwn o bobl mewn 20 dinas ledled pum cyfandir.

Mae pob Gŵyl WOW yn cynnwys sgyrsiau, dadleuon, cerddoriaeth, actifiaeth, comedi, gweithdai, mentora, pop-ups a pherfformiadau, yn dathlu menywod a merched, ac yn cymryd edrychiad gonest ar yr hyn sy’n eu rhwystro nhw rhag cyflawni eu potensial, ac mae’n codi ymwybyddiaeth ymysg menywod, dynion, merched a bechgyn o’r heriau meant yn eu hwynebu yn fyd-eang, yn ogystal â chreu opsiynau i oresgyn rhain.