Y straeon byrion gorau yw’r rheini a fydd yn cyniwair ym meddwl y darllenydd am gryn amser wedi’r darlleniad cyntaf. Mae straeon byrion yn rhoi rhyddid creadigol di-ben-draw i’r awdur, ond yn galw hefyd am ddisgyblaeth a chynildeb – gall llai olygu mwy. Byddwn yn edrych ar hanfodion ysgrifennu straeon da: dod o hyd i syniadau, plotio, strwythur y naratif, creu cymeriadau crwn, sut i olygu a sut i gloi. I gael ysbrydoliaeth, byddwn yn edrych ar waith rhai o’r awduron straeon byrion blaengar yn cynnwys Amy Hempel, Alice Munro, a Joyce Carol Oates. Erbyn diwedd yr wythnos byddwch chi’n ysgrifennu straeon sy’n bachu sylw eich darllenwyr o’r dechrau’n deg. Bydd y cwrs yn cynnwys gweithdai boreol, rhai ymarferol a chreadigol, a sesiynau un-i-un gyda’r tiwtoriaid yn y prynhawniau, ynghyd ag amser hamdden i ganolbwyntio ar ysgrifennu. Bydd uchafbwynt y cwrs ar y noson olaf lle bydd cyfle i rannu darn o waith gyda’ch cyd-awduron a’r tiwtoriaid mewn awyrgylch hwyliog a chefnogol.

Am fwy o wybodaeth am y tocynnau, tiwtoriaid, a’r siaradwr gwadd cliciwch yma.