Dewislen
English
.

Her 100 Cerdd 2017

Cyhoeddwyd 23 Hydref 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llun: Emyr Young
Llenyddiaeth Cymru yn herio pedwar bardd i ysgrifennu cant o gerddi mewn 24 awr

#Her100Cerdd

Unwaith eto eleni, mae Llenyddiaeth Cymru wedi gosod her i bedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Bydd y pedwar yn dod at ei gilydd i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i ymgymryd â’r gwaith cyfansoddi – lle bydd hefyd ambell syrpréis yn disgwyl y beirdd.

Y pedwar bardd dewr (a blinedig) sydd wedi cytuno i wynebu’r Her eleni yw Karen Owen, Rhys Iorwerth, Iestyn Tyne a Gwynfor Dafydd.

Bydd gofyn i bob un o’r pedwar bardd ysgrifennu o leiaf un gerdd bob awr i gyflawni’r Her 100 Cerdd mewn da bryd. Dyma’r pumed tro i’r Her gael ei chynnal, gyda’r pedwar tîm blaenorol yn cyrraedd y nod gydag eiliadau’n unig yn weddill.

Unwaith eto eleni, caiff y cyhoedd eu gwahodd i ymuno yn yr Her drwy awgrymu testunau a gyrru geiriau o anogaeth dros y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pedair awr ar hugain.

Ers ei sefydlu yn 2012, mae’r Her wedi cynnig cipolwg ar y Gymru sy’n bodoli ar y diwrnod hwnnw – ei gwleidyddiaeth, ei diddordebau, ei newyddion a’i diwylliant.

Ymysg y 400 o gerddi a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd mae cerddi serch a cherddi dychan; cerddi ar gerddoriaeth a cherddi ar y cyd; cerddi am selffis, dail a hyd yn oed bananas!

Bydd y tîm yn cychwyn arni am hanner dydd ar ddydd Mercher 27 Medi, ac yn rhoi’r atalnod llawn ar y gerdd olaf cyn hanner dydd dydd Iau 28 Medi, sef Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol. Bydd y cerddi oll yn cael eu cyhoeddi arlein ar www.llenyddiaethcymru.org yn syth ar ôl eu cwblhau er mwyn i’r cyhoedd gael dilyn eu cynnydd.

Y Beirdd

Newyddiadurwraig a bardd sydd wedi perfformio ar bum cyfandir yw Karen Owen. Mae’n athro barddol, yn dalyrnwraig ac yn feirniad eisteddfodol. Ei hail gyfrol, Siarad Trwy’i Het, oedd enillydd Categori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012. Mae wedi cydweithio gydag amrywiaeth o artistiaid, yn cynnwys Cowbois Rhos Botwnnog, 9Bach, Ed Holden, Gwenan Gibbard a Robat Arwyn. Cyhoeddodd ei chyfrol ddiweddaraf, Lein a Bît yng Nghalon Bardd (2016), ar ffurf CD.

Ar ôl pymtheg mlynedd yn byw yng Nghaerdydd, mae Rhys Iorwerth bellach yn ôl yng Nghaernarfon lle mae’n gweithio fel awdur a chyfieithydd llawrydd. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol 2011 a Chategori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2014. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Abermandraw, sef ei gyfrol gyntaf o ryddiaith. Mae’n un o sefydlwyr nosweithiau byw Bragdy’r Beirdd ac yn aelod selog o dîm ymrysona’r Deheubarth.

Llenor, cerddor a myfyriwr sy’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Iestyn Tyne. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd a Chadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn 2016, a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, addunedau, ar ei liwt ei hun eleni. Mae’n un o’r sawl sy’n gyfrifol am sefydlu, golygu a chynhyrchu cylchgrawn creadigol Y Stamp, ac yn aelod o dîm Talwrn Y Prentisiaid.

Bachgen o Donyrefail yw Gwynfor Dafydd sydd ar hyn o bryd yn astudio ieithoedd modern ym Mhrifysgol Caergrawnt. Enillodd gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2016 a 2017, ac mae’n aelod o dîm Talwrn Tir Iarll. Ysgrifennu ar y mesur rhydd y mae gan amlaf, ond aeth ati i ddysgu cynganeddu yn bymtheg oed yn sgil ymweliad gan Mererid Hopwood i Ysgol Llanhari.

Yw’r beirdd yn pryderu am yr her felly? Yn ôl Karen Owen:

“Fy mhryder mwyaf ydi’r ddalen wen, wag. A gorfod cydnabod na fydd fy ymdrechion – cystal ag y byddan nhw’n ymddangos ar y pryd – yn debygol o grafu dim argraff o gwbl ar ein mileniwm a hanner o draddodiad barddol.”

Ei allu i aros yn effro am bedair awr ar hugain yw pryder Iestyn Tyne,

“a chael fy ngwthio i greu dan bwysau, a gweithio ar bethau hollol annisgwyl wrth ymateb i geisiadau o’r we!”

I yrru’r ceisiadau annisgwyl rhain, a rhai caredicach at Iestyn a’r criw, gallwch ymuno yn yr Her 100 Cerdd drwy ddefnyddio’r hashnod #Her100Cerdd ar Twitter, a bydd dolen i’r cerddi yn cael eu postio fesul un ar gyfrif Twitter @LlenCymru ac ar ein tudalen Facebook: www.facebook.com/LlenCymruLitWales.

Her 100 Cerdd 2016