Dewislen
English
Cysylltwch

Prosiect Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref.

Cyhoeddwyd Maw 28 Awst 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Prosiect Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref.

Diwrnod awduron newydd a dathliad o brosiect Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref

 

Ffocws ar gysylltiadau llenyddol India-Cymru fel rhan o arddangosfa Facing N. S. Harsha

 

Lleoliad: Oriel Glynn Vivian, Ffordd Alexandra, Abertawe SA1 5DZ

 

Dyddiad: 1 Medi 2018

 

Amser: 2.00 pm – 5.00 pm

 

Rhad ac am ddim, nid oes angen archebu o flaen llaw (rhaid archebu eich lle ar gyfer sesiynau un-i-un, fodd bynnag)

 

 

Ymunwch â Parthian Books, Llenyddiaeth Cymru a’r Wales Arts Review am brynhawn o drafod, sgwrsio a rhannu gwybodaeth i ddathlu prosiect Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref, a gynhaliwyd ar y cyd y llynedd fel rhan o India-Cymru – menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council.

2.00 pm -2.45 pm

Cyfle i glywed sgwrs rhwng Richard Lewis Davies, Cyfarwyddwr Parthian a Gary Raymond, awdur a Golygydd y Wales Arts Review dan ofal Elena Schmitz, Pennaeth Rhaglenni Llenyddiaeth Cymru. Daeth y tri sefydliad ynghyd i weithio ar brosiect Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref yn 2017 gyda Bee Books, India. Bydd y sgwrs hon yn rhoi cefndir y prosiect ac yn trafod sut aeth y sefydliadau ati i gydweithio yn ogystal ac ystyried y broses o weithio’n rhyngwladol gydag awduron o Gymru. Prif ffocws y sesiwn fydd rhannu gwybodaeth gydag awduron newydd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn prosiectau tebyg yn y dyfodol.

 

 

3.00 pm – 3.45 pm

Cyfle i glywed gan yr holl awduron a gymerodd ran ym mhrosiect Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref: Natalie Ann Holborow, Sophie McKeand, Gary Raymond a Sion Tomos Owen. Teithiodd y pedwar i India y llynedd a bu hynny’n sbardun i waith creadigol newydd. Mewn sgwrs gyda Richard Lewis Davies, Cyfarwyddwr Parthian Books, bydd cyfle i rannu atgofion ac i berfformio eu gwaith.

 

4.00 pm – 5.00 pm

RHAID COFRESTRU: Sesiynau un-i-un gyda Richard Lewis Davies (Parthian) ac Elena Schmitz (Llenyddiaeth Cymru) ar gyfer awduron sydd eisiau rhagor o wybodaeth am weithio gyda chyhoeddwr neu am gyfleoedd a chefnogaeth i awduron gan Llenyddiaeth Cymru.

 

Uchafswm o 8 o lefydd ar gael; cyntaf i’r felin. Archebwch fan hyn i gadw’ch lle, gan nodi gyda phwy yr hoffech chi sgwrs.

 

Ynglŷn ag India-Cymru

Mae India-Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council er mwyn cynorthwyo cydweithrediad a chyfnewid artistig rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India a fydd yn meithrin rhwydweithiau a chydberthnasau cynaliadwy rhwng y ddwy wlad. Mae India-Cymru yn rhan o ymgyrch ehangach Blwyddyn Diwylliant India Y DU 2017.

Ynglŷn â phrosiect Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref

 

Yn 2017, cydweithiodd Parthian Books (Cymru) a Bee Books (India) ynghyd â Llenyddiaeth Cymru a Wales Arts Review ar brosiect Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref, ble bu chwe awdur o Gymru ac o India yn darganfod gwledydd ei gilydd ac yn defnyddio’u profiadau fel sbardun ar gyfer gwaith newydd.

 

Mae pob grŵp o awduron wedi ymweld â’r naill wlad, gyda llyfr o Gymru yn cael ei lansio yn Ffair Llyfrau Kolkata, ymddangosiad yng ngwyliau’r Gelli a Llansteffan yn ogystal â phreswyliad yn Nhŷ Newydd, Gogledd Cymru a nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus ar draws Cymru. Cyhoeddwyd rhifyn arbennig (y rhifyn printiedig cyntaf) o Wales Arts Review yn dilyn taith yr awduron o Gymru i India yng ngwanwyn 2017.

 

Cyfleoedd, Literature Wales