Dewislen
English
Cysylltwch

Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss – Noson o Lenyddiaeth a Cherddoriaeth ym Mrwsel

Cyhoeddwyd Mer 17 Mai 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss – Noson o Lenyddiaeth a Cherddoriaeth ym Mrwsel
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cynnal noson o farddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth a thrafodaeth yn Passa Porta, Tŷ Rhyngwladol Llenyddiaeth ym Mrwsel, ar 23 Mai 2017. Mae’r digwyddiad yn rhan o Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, prosiect blwyddyn o hyd sy’n coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r bardd o Gymru Hedd Wyn, a laddwyd ar faes y gad yn Fflandrys yn 1917, dim ond ychydig wythnosau cyn iddo ennill cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Bydd y digwyddiad ym Mrwsel yn archwilio bywyd a gwaith Hedd Wyn a beirdd eraill y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn cyflwyno ymatebion cyfoes i’w gwaith. Ymhlith y perfformwyr mae: Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn; y bardd a’r awdur Ffleminaidd Geert Buelens; y bardd a’r cerddor Gwyneth Glyn; y bardd a’r academydd Nerys Williams; a’r nofelydd arobryn Patrick McGuinness. Bydd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn, yn agor y noson.

Ar hyn o bryd, mae Nerys Williams, un o gyfranogwyr y noson, yn cyflawni preswyliad llenyddol am dair wythnos ym Mrwsel, lle mae’n archwilio’r tebygrwydd rhwng hanes Hedd Wyn a’r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge, a fu farw yn Ypres ar 31 Gorffennaf 1917. Yn ystod ei phreswyliad, bydd Nerys yn ymweld ag ardal Artillery Wood, ble claddwyd y ddau fardd.

Caiff Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i ariannir gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ac fe’i weithredir mewn partneriaeth â Llywodraeth Fflandrys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Er mor fawr oedd y golled pan laddwyd Hedd Wyn yn 30 mlwydd oed, mae ei etifeddiaeth yn parhau yn ei gerddi a’i lawysgrifau. “Mae’n bwysig ein bod yn cofio’r aberth a wnaed ganddo ef a’i gyd-filwyr ar gaeau Fflandrys gan mlynedd yn ôl. Dymunaf bob llwyddiant i drefnwyr a chyfranogwyr y noson.”

Dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: “Mae Barddoniaeth Colled, a rhaglen ehangach Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, yn gyfle i Gymru atgyfnerthu ei chysylltiadau diwylliannol gydag Ewrop ac i hyrwyddo’i threftadaeth ddiwylliannol i gynulleidfaoedd newydd. Byddwn yn defnyddio llenyddiaeth, celfyddyd a hanes i archwilio themâu o ryfel a dadleoliad, themâu sydd mor arwyddocaol heddiw ag yr oeddent gan mlynedd yn ôl.”

Mae prosiect ehangach Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss yn cynnwys digwyddiadau coffaol yn Fflandrys ac Iwerddon; cyfnewidfa breswyl ar gyfer awduron rhwng Passa Porta ym Mrwsel a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy; a sioe farddoniaeth amlgyfrwng newydd dan y teitl Y Gadair Wag – i’w llwyfannu ym mis Medi 2017. Yn ogystal, bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn traddodi Darlith Glyn Jones 2017 yng Ngŵyl y Gelli ar Hedd Wyn (Dydd Llun 29 Mai, 7.00 pm).

*****

Barddoniaeth Colledd | Poetry of Loss: Brwsel – Manylion y Digwyddiad

Dydd Mawrth 23 Mai 2017
8.00 pm (Amser Lleol)
Yn Passa Porta, Brwsel
Mynediad Am Ddim / Croeso Cynnes i Bawb
*Saesneg fydd prif iaith y noson

Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org

Llyfryn Digwyddiad:

Uncategorized @cy