Dewislen
English
Cysylltwch

Barddoniaeth Colled: Preswyliad Llenyddol ym Mrwsel, Mai 2017

Cyhoeddwyd Gwe 17 Chw 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Barddoniaeth Colled: Preswyliad Llenyddol ym Mrwsel, Mai 2017
© IWM (Q 2711)

Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am awdur o Gymru i gyflawni preswyliad llenyddol ym Mrwsel ym mis Mai 2017. Mae’r preswyliad yn rhan o Barddoniaeth Colled, prosiect sy’n coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd Barddoniaeth Colled yn rhoi sylw penodol i Hedd Wyn, a laddwyd ar faes brwydr yn Fflandrys, ger Ypres, ar 31 Gorffennaf 1917. Cyflwynir y prosiect mewn partneriaeth â Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 a Llywodraeth Fflandrys.


Dyddiadau’r Preswyliad:

Dydd Llun 8 – Dydd Sul 28 Mai 2017

Ble:

Prif leoliad y preswyliad fydd Passa Porta (www.passaporta.be), Tŷ Rhyngwladol Llenyddiaeth ym Mrwsel. Mae Passa Porta wedi ei leoli yng nghanol Brwsel, ac mae’n lleoliad unigryw i awduron, darllenwyr, cyfieithwyr a chanolwyr o bob cwr o’r byd gyfarfod a gweithio.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn lletya mewn Gweithle yn Salon Passa Porta ar Rue Antoine Dansaert 46, sy’n fflat a gaiff ei rannu ar ail lawr yr adeilad. Mae’r Gweithle yn cynnwys ystafell gyda Wi-Fi, desg ysgrifennu, gwely sengl, wardrob a balconi sy’n edrych dros deras a swyddfa Passa Porta. Gellir defnyddio’r gofodau cymunedol (ystafell ymolchi a’r gegin) fel y mynnir.

Amodau:

Mae’r preswyliad hwn yn agored i awduron sydd wedi eu geni neu sy’n byw yng Nghymru. Byddant yn ysgrifennu neu’n gweithio yn Gymraeg neu’n Saesneg yn un o’r genres canlynol: nofelau, straeon byrion, nofelau graffig, barddoniaeth, llenyddiaeth plant, ffuglen i’r arddegau, a rhyddiaith ffeithiol greadigol, sy’n cynnwys beirniadaeth lenyddol, cofiannau/hunangofiannau. Mae’r preswyliad yn agored i awduron sydd wedi cyhoeddi eu gwaith eisoes, neu sydd heb gyhoeddi eto.

Bydd y preswylydd yn derbyn llety yn fflat Passa Porta, costau teithio rhwng Cymru a Brwsel, a €250 yr wythnos tuag at gostau.

Ceisiadau:

I wneud cais, anfonwch CV llenyddol ynghyd â llythyr cefnogol (heb fod dros 300 gair) yn esbonio eich cymhelliad dros ymgeisio am y preswyliad a’ch bwriad yn ystod y cyfnod ym Mrwsel pe byddech yn llwyddiannus. Dylech nodi sut y gallai’r preswyliad eich helpu i ddatblygu fel awdur ar y pwynt hwn yn eich gyrfa. Dylai awduron nad ydynt wedi cyhoeddi eto anfon sampl byr o’u gwaith yn ogystal.

Os gwelwch yn dda nodwch unrhyw anghenion mynediad perthnasol i’r preswyliad yn eich cais.

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: Dydd Gwener, 10 Mawrth 2017

Anfonwch eich cais i Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org

Uncategorized @cy