Dewislen
English
.

Bobi Jones 1929 – 2017

Cyhoeddwyd 16 Rhagfyr 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llun: Marian Delyth

Angau, ’rwyt ti’n fy ofni i

Am fy mod yn fardd . . .

(‘Y Gân Gyntaf’, 1957)

 

Gyda’r tristwch mwyaf, noda Llenyddiaeth Cymru farwolaeth Bobi (Robert Maynard) Jones, un o feirdd, awduron rhyddiaith, ysgolheigion a beirniaid llenyddol mwyaf Cymru. Ef oedd Llywydd Yr Academi Gymreig –– sefydliad a ddaeth i fodolaeth yn 1959 o ganlyniad i sgyrsiau rhyngddo ef a Waldo Williams (un o’i gyfeillion mawr). Ganed Bobi yng Nghaerdydd ar aelwyd Saesneg ei hiaith. O’r cychwyn, cyfuna yn ei waith, ar draws ystod o ffufriau llenyddol, bersbectif cyfredol digyfaddawd ac ymwybyddiaeth ddofn o’r traddodiadau llenyddol a diwylliannol yr oedd yn eu cofleidio a’u herio. Caiff ei waith creadigol a’i gynnyrch academaidd ym maes theori a beirniadaeth lenyddol eu hangori – a’u cymhlethu hefyd – gan ei argyhoeddiad Calfinaidd gwaelodol. Fel meddyliwr ac Athro’r Gymraeg, perthynai i ddiwylliant Ewropeaidd. Ar nodyn personol, fe’i cefais yn wastad yn ŵr addfwyn a hynod gefnogol. Rhydd un frawddeg nodweddiadol Fobïaidd ar ei wefan –– compendiwm o’i waith a’i feddyliau mwy diweddar –– gipolwg o’r dyn: ‘Ni fwriadwyd y wefan hon fel pregeth, wrth gwrs, ond fel mawl a dathliad, fel disgrifiad a diddanwch, trwm ac ysgafn, o fewn trefn realistig, mewn un lle bychan yn y Tragwyddol’. Mae Llenyddiaeth Cymru yn estyn cydymdeimlad dwys â’i wraig Beti –– presenoldeb canolog yng ngwaith y bardd, wrth gwrs –– ac â’i deulu a’i gydnabod.

 

Yr Athro Damian Walford Davies

Cadair, Llenyddiaeth Cymru

 

 

Yr Athro Robert Maynard (Bobi) Jones

 

Gyda thristwch mawr y clywyd y newyddion am farwolaeth yr Athro Robert Maynard (Bobi) Jones, Cyd-lywydd yr Academi Gymreig. Prin y gall neb roi cyfri llawn o gyfraniad aruthrol Bobi Jones i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Roedd ehangder ei weithgaredd yn destun rhyfeddod – o astudiaethau canoloesol i farddoniaeth gyfoes ac o theori lenyddol i ddulliau caffael iaith (ac enwi dim ond pedwar maes o blith nifer). Yn wir, cafodd sawl myfyriwr ail ar hyd y blynyddoedd wrth sylweddoli mai’r un gŵr oedd Bobi Jones, y bardd a’r nofelydd toreithiog, ac R. M. Jones, yr ysgolhaig amlweddog. Yn y blynyddoedd diweddar, daeth â’r ddau enw ynghyd trwy gyfrwng y wefan rmjones-bobijones.net. Mae bodolaeth y wefan honno ynddi’i hun yn dweud cyfrolau am egni a dyfalbarhad deallusol gŵr a ddaeth i amlygrwydd mewn dadl gyhoeddus â W. J. Gruffydd yn ôl yn 1950.

Ganed Bobi Jones i deulu di-Gymraeg yng Nghaerdydd yn 1929. Dewisodd astudio’r Gymraeg yn yr ysgol, neu’n hytrach, fel y dywedodd ef ei hun, y Gymraeg a’i dewisodd ef. Aeth rhagddo i fwynhau gyrfa academaidd ddisglair a hynod gynhyrchiol, a chael ei benodi’n Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1980. Tystiai ei ysgrifennu bob amser i’w gred ddi-syfl ym mhwysigrwydd sylfaenol llenydda. Gallai fod yn chwareus o ffraeth, ond eto fe wyddai’r darllenydd ei fod bob amser yn gwbl o ddifri am ei alwedigaeth. Roedd yn feddyliwr damcaniaethol gwreiddiol a heriol ­a ddatblygodd ei strwythuraeth Gymraeg unigryw ei hun. Roedd ei Gristnogaeth Galfinaidd yn greiddiol i bopeth a wnâi, ac nid syndod, felly, iddo fynd benben ag ôl-foderniaeth diwedd yr ugeninfed ganrif. Ond roedd hefyd yn feddyliwr gwrth-drefedigaethol a bwysleisiai’r rôl unigryw a roddwyd i Gymru yn y greadigaeth.

Roedd perthynas iaith a chenedl yn hanfodol i’w fydolwg, ac roedd yn naturiol iddo roi’r cymundod hwnnw ar waith mewn modd ymarferol. Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr CYD (Cymdeithas y Dygwyr) a hefyd, gyda Waldo Williams, yn gyd-sylfaenwr yr Academi Gymreig yn 1959. Ond y bartneriaeth bwysicaf oll iddo oedd honno â’i wraig Beti, a oedd yn ysbrydoliaeth ac yn gynheiliad ymarferol anhepgor ar hyd y degawdau. Estynnwn ein cydymeimlad dwysaf iddi hi a’r teulu oll.

 

Yr Athro Dylan Foster Evans