Dewislen
English
Cysylltwch

Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2018

Cyhoeddwyd Maw 14 Tach 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2018
Chris Hoy, credit: Ben Duffy

Mae chweched Ŵyl Llen Plant Caerdydd yn cychwyn ym mis Rhagfyr wrth i’r beiciwr Olympaidd Syr Chris Hoy feicio i’r ddinas i gyflwyno ei gyfres newydd o lyfrau ar gyfer darllenwyr ifanc o’r enw Flying Fergus 7: The Wreck It Race

 

Bydd athletwr Olympaidd mwyaf llwyddiannus Prydain ynghyd â’r awdur penigamp, Joanna Nadin, a’r darluniwr, Clare Elsom, yn mynd â chi a’r antur feicio hudol, hwyl ac arbennig i archwilio byd hudolus Flying Fergus trwy waith tîm, creadigrwydd a llawer o antur.

 

Mae Flying Fergus yn gyfres lawn mynd o anturiau beicio gyda Fergus Hamilton, sy’n 9 oed, a’i ffrindiau wrth iddo deithio i ac yn ôl o fydysawd cyfochrog o’r enw Nevermore, lle na chaniateir beicio a lle mae ei dad wedi’i ddal gan y brenin drwg Woebegot

 

Bydd y digwyddiad yn nodi lansiad rhaglen Gŵyl Llen Plant Caerdydd 2018 a fydd eto’n digwydd dros ddau benwythnos o 21 – 29 Ebrill. Bydd digwyddiadau yn Gymraeg a Saesneg mae’r wŷl yn dathlu’r goreuon ym maes llyfrau plant cyfoes.

 

Bwydwch ddychymyg eich plant yn ogystal â’u hoffter o ddarllen y Nadolig hwn trwy brynu tocynnau i weld eu hoff awduron a darlunwyr wrth iddynt ddod â’u geiriau a’u lluniau’n fyw mewn lleoliadau eiconig trwy ganol y ddinas, gyda straeon a pherfformiadau gwych yn cynnwys cast o gymeriadau ardderchog, mae’n anrheg ddelfrydol i’r plant sy’n hoffi llyfrau plant.

 

Lansiad Gŵyl Llen Plant Caerdydd gyda Syr Chris Hoy MBE 12th Rhagfyr 6:30 pm – 7:30 pm £5

Cliciwch yma neu ffoniwch 02920 230 130

 

 

Plant a Phobl Ifanc