Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd Mehefin

Cyhoeddwyd Gwe 1 Meh 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfleoedd Mehefin

Dyma restr o gyfleoedd a mis Mawrth ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar FacebookTwitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

 

Cystadleuaeth Ysgrifennu Thematig Mslexia – 4 Mehefin

Mae Mslexia yn chwilio am straeon  heb fod dros 2,200 o eiriau, cerddi hyd at 40 o linellau neu sgriptiau byr hyd at 1,000 o eiriau ar themâu coginio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.mslexia.co.uk

 

LUMIN Journal – 5 Mehefin

Mae LUMIN yn derbyn darnau creadigol o unrhyw faes celfyddydol. Maent yn eu cysidro ar gyfer eu cyhoeddi ar-lein ac mewn copi print.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://luminjournal.com/submissions/ 

 

Swydd Wag: Rheolwr Iechyd a Llesiant – 6 Mehefin

Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i arwain prosiect Ffrindiau Darllen ac i gyfrannu tag at ein polisi llesiant. Cytundeb penodol blwyddyn o hyd, £23,000 – £28,000 pro rata, wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.llenyddiaethcymru.org/about/swyddi-gwag/

 

Gwobr Young Writer of the Year – 8 Mehefin

Mae’r gystadleuaeth yn derbyn ceisiadau gan awduron rhwng 18 – 35 mlwydd oed sydd wedi cyhoeddi neu hunan-gyhoeddi eu llyfrau. Gallwch anfon llyfrau drwy’r post neu dros e-bost.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.youngwriteraward.com

 

Gwobr Commonword Diversity ar gyfer Ffuglen Pobl Ifanc 2018 – 29 Mehefin

Maent yn croesawu ceisiadau gan awduron o’r DU sy’n ysgrifennu ffuglen ar gyfer plant a phobl ifanc, ond heb eu cyhoeddi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://commonwordcultureword.submittable.com/submit/102384/commonword-diversity-young-adult-fiction-prize-2018

 

Gwobr Stori Fer V.S. Pritchett – 29 Mehefin

Rhaid i’r straeon gael eu hysgrifennu yn Saesneg a’u bod rhwng 2,000 a 4,000 o eiriau. Rhaid i ymgeiswyr fod breswylio yn y DU, Iwerddon neu’r Gymanwlad.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://rsliterature.org/award/v-s-pritchett-memorial-prize/

 

Preswyliadau ym Maes Awyr Heathrow ac ym Mharc Antur Alton Towers – 1 Gorffennaf

Cyfres o breswyliadau llenyddol sy’n cael eu cynnal mewn gofodau unigryw. Mae’r Liminal Residency yn dibynnu ar brofiad bywyd, siawns ar hap ac antur ar y cyd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.liminalresidency.co.uk 

 

Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Prifysgol Oxford Brookes – 6 Awst

Mae’r gystadleuaeth yn agored i feirdd newydd yn ogystal â’r rhai sydd eisoes wedi ennill eu plwyf, cyn belled eu bod dros 18 mlwydd oed. Mae’n agored i unrhyw un ar draws y byd ac yn derbyn cynigion ar gyfer dau gategori. Y beirniad eleni yw’r bard Kayo Chingonyi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.brookes.ac.uk/poetry-centre/international-poetry-competition/