Cyhoeddi Enwau’r Ymgeiswyr Llwyddiannus ar gyfer Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru

Cyhoeddi Enwau’r Ymgeiswyr Llwyddiannus ar gyfer Grŵp Dramodwyr Newydd
Theatr Genedlaethol Cymru
Theatr Genedlaethol Cymru
mewn cydweithrediad ag S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r dramodwyr hynny sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o gynllun cenedlaethol newydd i ddatblygu crefft awduron llwyfan trwy gyfrwng y Gymraeg, sef Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae’r grŵp yn cynnwys awduron sy’n adnabyddus am eu gwaith mewn cyfryngau eraill, ynghyd â rhai sydd eisoes yn gweithio ym myd y theatr ond mewn meysydd gwahanol – gan gynnwys rhai a ddaeth i amlygrwydd pellach yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni.
Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru 2018/19 fydd: Melangell Dolma, Cai Llewelyn Evans, Elin Gwyn, Miriam Elin Jones, Lowri Morgan, Naomi Nicholas, Sian Northey a Gruffudd Eifion Owen.
Trwy gydweithio gydag S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman, ac fel rhan o fenter newydd Theatr Genedlaethol Cymru – Theatr Gen Creu (sy’n cefnogi a datblygu talent) – mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig cefnogaeth i’r 8 o awduron theatr newydd hyn i’w galluogi i ddatblygu eu crefft trwy gyfres o ddigwyddiadau, gweithdai a mentoriaeth dros gyfnod o 10 mis.
Fe ymgeisiodd 44 i fod yn rhan o’r cynllun cyffrous hwn, a’r rheiny’n dod o bob cwr o Gymru. Roedd safon y ceisiadau yn uchel iawn; cymaint felly nes bod Theatr Genedlaethol Cymru wedi penderfynu cynnig cefnogaeth yn ystod y flwyddyn i ddod i 12 awdur yn ychwanegol i’r 8 sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o’r Grŵp yma, wrth iddynt ddatblygu eu crefft fel dramodwyr Cymraeg.
Bydd y cynllun yn rhedeg rhwng Medi 2018 a Gorffennaf 2019. Mae’n cynnwys 6 gweithdy
un-dydd gyda dramodwyr proffesiynol profiadol mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru, yn cynnwys Caerfyrddin, Aberystwyth, Caerdydd, Yr Wyddgrug a Bangor, ac ymhlith y tiwtoriaid mae Dafydd James, Bethan Marlow, Aled Jones Williams, Alan Harris ac Alun Saunders.
Cynhelir dau weithdy ychwanegol i drafod cyfleoedd i ddramodwyr ddatblygu eu crefft ac ennill cyflogaeth mewn cyfryngau eraill, a hynny dan ofal Llenyddiaeth Cymru ac S4C.
Disgwylir i aelodau’r Grŵp fynd i weld perfformiadau theatr (yn arbennig felly enghreifftiau o ysgrifennu newydd) yn ystod y 10 mis, ac o dan y teitl ‘Be Welaist Ti?’ bydd cyfleoedd i’r dramodwyr ddod ynghyd i drafod y cynyrchiadau maen nhw wedi eu gweld. Darperir tocynnau rhad ac am ddim i’r dramodwyr fynychu rhai perfformiadau yn eu canolfan leol drwy garedigrwydd y lleoliadau sy’n rhan o’r cynllun.
Yna, bydd cyfnod o 5 mis i bob aelod o’r grŵp ysgrifennu drama newydd, gan dderbyn adborth proffesiynol ar y gwaith fel mae’n datblygu, a hynny gan fentoriaid profiadol ym maes ysgrifennu newydd ar gyfer y theatr. Mae’r mentoriaid hynny yn cynnwys Arwel Gruffydd (Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru), Sarah Bickerton (Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru) a Ffion Haf (cyfarwyddwr theatr llawrydd).
Ar ddiwedd y cynllun trefnir darlleniadau cyhoeddus wedi eu hymarfer o’r dramâu newydd hyn (gydag actorion a chyfarwyddwyr proffesiynol) yn y canolfannau sy’n rhan o’r cynllun, fel cyflwyniad o waith-ar-waith, a bydd cyfle i’r dramodwyr fynychu’r ymarferion. Bydd trafodaeth agored yn digwydd wedi pob darlleniad, gyda chyfle i’r gynulleidfa holi’r dramodwyr a chynnig ymateb i’r gwaith. Bydd cyfle’n ogystal i’r dramodwyr dderbyn adborth gan holl bartneriaid y prosiect, ynghyd â chyfle i drafod perthynas greadigol bellach gyda hwy a gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd y darlleniadau hyn yn digwydd rhwng 10 Mehefin a 3 Gorffennaf 2019.
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Roedd derbyn yr holl geisiadau ar gyfer Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru yn galonogol iawn ynddo’i hun. Ond roedd y ffaith bod y ceisiadau bron yn ddieithriad wedi bod yn rhai cryfion yn gwneud ein gwaith ni o ddewis y goreuon yn anodd eithriadol. Ond mae’r broses hefyd wedi bod yn un bleserus, a braf oedd cyfarfod â nifer fawr o ddramodwyr oedd yn newydd i ni. Mae’r 8 sydd wedi eu dewis yn cynrychioli ystod eang yn ddaearyddol, ac amrywiaeth hefyd o ran lleisiau a chwaeth greadigol. Rwy’n hyderus iawn y daw o’r broses yma nid yn unig ddramodwyr newydd o’r radd flaenaf, ond hefyd weithiau theatraidd cyffrous a fydd yn wledd i gynulleidfaoedd y dyfodol.”
Mae’r cyfan o’r cynllun hwn yn cael ei gynnig heb unrhyw gost o gwbl i’r ymgeiswyr llwyddiannus.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â mair.jones@theatr.com