Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau Tŷ Newydd 2018

Cyhoeddwyd Gwe 13 Hyd 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau Tŷ Newydd 2018
Rhai o enwau mawr y byd llên yn arwain Rhaglen Gyrsiau Tŷ Newydd 2018

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi rhaglen o gyrsiau ysgrifennu creadigol Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer 2018. Mae’r rhaglen yn cynnig cymysgedd o gyrsiau ac encilion diwrnod, unnos, penwythnos ac wythnos o hyd sy’n addas ar gyfer egin awduron yn ogystal â’r profiadol, ac mae’r cyfan ar gael i’w archebu nawr ar wefan Tŷ Newydd, gyda gostyngiad o 10% ar bob cwrs preswyl tan ddiwedd Hydref. Trefnir nifer o’r cyrsiau ar y cyd â phartneriaid eraill yn y sector llenyddiaeth er mwyn datblygu sgiliau proffesiynol awduron yn ogystal â rhai llenyddol.

Yn 2018 byddwn yn arbrofi â chyrsiau unnos newydd sbon, sef cyrsiau byrion, fforddiadwy fydd hefyd yn darparu blas o’r profiad arbennig o aros dros nos yn y ganolfan. Pedwar cwrs o’r fath sydd yn y rhaglen, sef Ysgrifennu Ffuglen Boblogaidd gyda Dewi Prysor a Llwyd Owen; Sgriptio gydag Aled Jones Williams; Ysgrifennu i Bobl Ifainc gyda Lleucu Roberts a Bethan Gwanas mewn partneriaeth â’r Lolfa;  a chwrs fydd yn eich cyflwyno i’r grefft o sgriptio ac addasu testun ar gyfer ffilm, teledu a’r llwyfan yng nghwmni Gwyneth Glyn a Fflur Dafydd.

Bydd cyrsiau Cymraeg sydd wedi profi’n boblogaidd dros y blynyddoedd yn dychwelyd eto’r flwyddyn nesaf yn cynnwys penwythnos o ysgrifennu creadigol i ddysgwyr Cymraeg, a’n Cwrs Cynganeddu chwedlonol, mewn partneriaeth â Barddas, fydd dan ofal neb llai na’r Prifeirdd Mererid Hopwood a Ceri Wyn Jones. Dyma’r unig gwrs trochi o’i fath, sy’n cynnig cyflwyniad cyflym, ond trylwyr, i reolau’r gynghanedd i ddechreuwyr, a thrafodaethau a gweithdai mwy dwys i’r rhai sydd eisoes yn ei hymarfer. Yn ôl un o gyfranogwyr cwrs cynganeddu y llynedd:

“Cwrs gwych! Dwi ‘rioed wedi dysgu cymaint mewn cyn lleied o amser. Fy hoff beth oedd y foment o sylweddoli mod i newydd ‘sgwennu fy englyn cyntaf.”

Uchafbwynt arall yn y rhaglen fydd cwrs ar gyfieithu barddoniaeth a rhyddiaith yng nghwmni Menna Elfyn ac Owen Martell.

Yn ogystal â rhai o brif enwau’r byd llenyddol Cymraeg, mae ambell enw mawr o’r byd llenyddol tu hwnt i’r ffin yn ymddangos yn Rhaglen Gyrsiau 2018. Bydd Louis de Bernières, awdur y gyfrol fyd-enwog Captain Corelli’s Mandolin yn cyd-diwtora cwrs Creu Nofel gydag Alys Conran, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Bydd y dramodydd ac awdur y sioe Blood Brothers, Willy Russel hefyd yn dod i Dŷ Newydd i arwain cwrs ar ysgrifennu geiriau caneuon yn y gwanwyn. A bydd y bardd Lemn Sissay yn ymuno ag Awdur Ieuenctid Cymru, Sophie McKeand, i diwtora cwrs barddoniaeth.

Meddai Leusa Llewelyn, Pennaeth Canolfan Tŷ Newydd:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi gallu cydweithio â chymaint o bartneriaid o fewn y sector llenyddiaeth a thu hwnt i ddarparu’r rhaglen arbennig hon o gyrsiau. I ddefnyddio dywediad cyffredin, mae rhywbeth i bawb yn y rhaglen hon. Os mai breuddwyd yn unig yw ysgrifennu i chi, dewch yma i gael blas ar y grefft. Os ydych chi eisoes yn awdur, ond angen hwb i ail-gychwyn neu i roi  cynnig ar grefft wahanol – dewch draw. Ac i’r rhai toreithiog yn eich plith, mae gennym ddosbarthiadau meistr. Edrychwn ymlaen at groesawu criw mawr ohonoch yma eto’r flwyddyn nesaf.”

Mae cyrsiau byrion a rhai hir, sy’n addas i ddechreuwyr ac awduron mwy profiadol o bob oed a chefndir ar gael, a hynny mewn sawl genre gwahanol. Bydd encilion amrywiol ar gael hefyd fydd yn darparu gofod i chi ddod i ganolbwyntio ar waith ar y gweill mewn awyrgylch heddychlon, ysbrydoledig. I ddathlu cyhoeddi’r rhaglen, cynigir gostyngiad o 10% ar bris pob cwrs preswyl hyd nes ddiwedd mis Hydref gyda’r cod TN2018.

Am ragor o wybodaeth am Dŷ Newydd, yn cynnwys tystlythyrau gan gyn-gyfranogwyr, ac i weld y rhaglen yn ei chyfanrwydd ewch draw i www.tynewydd.cymru neu i wneud cais am raglen brint cysylltwch â Thŷ Newydd: 01766 522811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Tŷ Newydd