Cyhoeddi Ysgoloriaethau i Awduron: Gwledd o ysgrifennu newydd

Mae Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cymorth i awduron trwy ganiatáu amser a chyfle iddynt ddatblygu eu crefft ymhellach, ar bob cam o’u gyrfa. Fe ddyfarnwyd ysgoloriaethau i nifer o awduron newydd. Mae pymtheg o awduron eleni yn derbyn ysgoloriaeth am y tro cyntaf, a gydag wyth ohonynt heb gyhoeddi cyfrol o’u gwaith hyd yn hyn, mae’r pwyslais eleni ar gefnogi gwaith ysgrifenedig newydd. Bydd ysgoloriaethau hefyd yn cynorthwyo awduron arobryn i arbrofi a thorri tir newydd.
Mae hel straeon, a phwysigrwydd adrodd stori yn elfen gyffredin i’r gwaith ar y gweill gan awduron 2017. Mae’r gweithiau hyn yn y Gymraeg a’r Saesneg, mewn genres amrywiol megis straeon byrion, nofelau, casgliadau o gerddi a gwaith ffeithiol greadigol. Mae yma straeon o fywyd go iawn, o Gasnewy’ bach i Gaerffili, ac eraill sy’n ein tywys trwy ddrws dychymyg, i arall fyd. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Sarah Down-Roberts yn caniatáu iddi ymchwilio ac ysgrifennu cofiant newydd i John Eilian, un o gymeriadau mwyaf lliwgar yr ugeinfed ganrif. Newyddiadurwr, golygydd, cyfieithydd, bardd, sosialydd pybyr a drodd yn geidwadwr a brenhinwr. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn galluogi Gareth Hugh Evans-Jones i ddatblygu ei nofel gyntaf, Dinogad, sydd â’i gwreiddiau yng ngherddi Y Gododdin. Bydd y nofel ffantasi yn ceisio rhoi gwedd newydd ar stori gyfarwydd; am ddyn ifanc yn dysgu ei fod wedi ei fabwysiadu, a goblygiadau hynny arno ef, ei deulu maeth a’r gymdeithas yn ehangach.
Edrychwn ymlaen at weld gwaith arloesol gan ddau awdur profiadol, wrth iddynt fentro i dir newydd. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig yn caniatáu i’r Prifardd Alan Llwyd ganolbwyntio ar gyfansoddi casgliad o gerddi wrth iddo ddynesu at garreg filltir arbennig, a chyrraedd oed yr addewid. Ei fwriad yw llunio cant o gerddi yn edrych yn ôl ar ei fywyd, ac ar ei gyfnod, gan geisio dirnad a deall bywyd. Bydd y Prifardd Manon Rhys yn arloesi trwy ganolbwyntio ar greu gwaith creadigol aml gyfrwng, a fydd yn cynnwys ystod eang o ffurfiau llenyddol – straeon byrion, straeon meicro, ymsonau, dialogau, ysgrifau a cherddi. Ei bwriad yw mentro a herio’r hen ffiniau traddodiadol rhwng “rhyddiaith” a “barddoniaeth”.
Gellir disgwyl gwledd o ffuglen Saesneg newydd wedi eu gosod yng Nghymru a thu hwnt. Yn eu plith bydd nofel gyntaf Thomas Morris, a enillodd Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2016. Bydd Caerffili a’i phobl yn gefndir i’r nofel hon, fel yn ei gyfrol arobryn o straeon We Don’t Know What We’re Doing (Faber). Bydd nofel gyntaf y bardd Meirion Jordan wedi’i gosod yn Nghymru a Ffrainc yn y cyfnod yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr. Bwriad Damian Harvey yw cyflwyno hanes cyfarwydd Barti Ddu i gynulleidfa newydd, a bydd ei nofel Saesneg i blant yn gwibio o’r presennol i’r gorffennol. Bydd Carys Haf Glyn yn canolbwyntio ar nofel antur Saesneg i blant, wedi’i gosod mewn tref glan môr yn ne Cymru – cartref criw o ysbïwyr anarferol, criw sy’n cynnwys mamgu’r prif gymeriad.
Ers 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1 miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan alluogi 263 o awduron i ddatblygu eu gwaith mewn ystod o genres. Dros y degawd diwethaf, cafodd ffuglen, barddoniaeth, llenyddiaeth plant, llenyddiaeth i’r arddegau a gwaith ffeithiol greadigol eu cynnwys ymhlith yr ysgoloriaethau llwyddiannus, ac yn 2011 gwobrwywyd nofelau graffeg am y tro cyntaf.
“Fel un sy’n adolygu a beirniadu llenyddiaeth, bu’n brofiad cyffrous i gael y fath gipolwg breintiedig ar y ddawn ac addewid llenyddol sy’n byrlymu i’r brig yng Nghymru ac i lawn sylweddoli pa mor greiddiol a hanfodol yw rôl Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru yn y broses o feithrin y ddawn a’r addewid hynny.”
– Sioned Williams, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru
“Mae cefnogi awduron ar bob cam o’u gyrfa wrth wraidd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Mae’r awduron sy’n derbyn Ysgoloriaethau eleni yn cynrychioli cryfder ac amrwyiaeth ysgrifennu yng Nghymru, o leisiau newydd i awduron arobryn sydd wedi ennill eu plwyf. Mewn blwyddyn ble cafwyd y nifer uchaf o geisiadau erioed, roedd y Panel Ysgoloriaethau’n chwilio am y safon aur. Edrychwn ymlaen at ddarllen llenyddiaeth o’r radd flaenaf o Gymru.”
– Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweinyddu’r Ysgoloriaethau i Awduron ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru. Noddir Ysgoloriaethau i Awduron gan y Loteri Genedlaethol, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae’r ysgoloriaethau a wobrwyir yn adlewyrchu cymysgedd cyfoethog talent, a rhychwant arddulliau, pynciau a ffurfiau llenyddiaeth o Gymru; ond yn fwy na hynny, beth y gwelwn yma yw straeon nas adroddwyd eto, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau’r ysgoloriaethau hyn yn addurno silffoedd llyfrau yn y dyfodol agos.”
–Dr Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru
I ddarllen mwy am Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru, a’r dulliau eraill gall y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth gefnogi awduron ar bob cam o’u gyrfa, cliciwch yma.