Dewislen
English
Cysylltwch

Cystadleuaeth Hwyl Llên Llandeilo

Cyhoeddwyd Llu 27 Chw 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cystadleuaeth Hwyl Llên Llandeilo
Mae Hwyl Llên Llandeilo wedi cyhoeddi tri cystadleuaeth ar gyfer plant a phobl ifanc fel rhan o’r Ŵyl a fydd yn digwydd rhwng 27 a 30 Ebrill eleni.

“Os wyt ti’n chwech neu’n iau, ac yn gallu dychmygu sut mae draig yn edrych, gwna lun neu baentiad ohono” dywedodd trefnydd yr ŵyl Christoph Fischer. “Neu os wyt ti rhwng 7 – 11, mae gennym gystadleuaeth i ti greu cymeriad Celtaidd cyffroes ac ysgrifennu saga fer (stori rhwng 100 – 200 gair) wedi ei ysbrydoli gan dy gymeriad. Y trydydd cystadleuaeth, i bobl ifanc rhwng 11 – 16, yw creu delwedd o berson neu anifail sy’n ymddangos mewn chwedloniaeth Gymraeg, yna ysgrifennu portread o’r cymeriad mewn 400 neu lai.”

Anfona dy waith erbyn 14 Ebrill.

Bydd gwaith y gystadleuaeth yn cael ei arddangos yn ystod Gŵyl Llên Llandeilo, a caiff yr enillwyr eu cyhoeddi yn Neuadd y Ddinas am 3.00 pm ddydd Sadwrn 29 Ebrill. Mae ffocws dydd Sadwrn yr ŵyl ar lyfrau plant, gwyddonias a ffuglen gyfoes gyda darlleniadau mewn lleoliadau amrywiol o amgylch Llandeilo gan awduron amrywiol.

Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl a’r gystadleuaeth hon, ewch i: https://llandeilolitfest.org/