Dewislen
English
Cysylltwch

Cystadleuaeth Never Such Innocence

Cyhoeddwyd Gwe 24 Chw 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cystadleuaeth Never Such Innocence

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 10 Mawrth 2017

 

Mae’r gystadleuaeth hon ar agor i blant o bob cwr o’r byd rhwng blynyddoedd 5 – 11 (rhwng 9 – 16 oed)

Mae’r ceisiadau’n cael eu rhannu i dri categori oedran: Blynyddoedd 5 – 6 (9 – 11 oed); Blynyddoedd 7 – 9 (11 – 14 oed); Blynyddoedd 10 – 11 (14 – 16 oed).

 

Mae Never Such Innocence yn dy wahodd i gyflwyno cerddi neu waith celf i’w cystadleuaeth sydd wedi’i ysbrydoli gan ddigwyddiadau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gellir cyflwyno cerddi yn Gymraeg, yn Saesneg neu mewn Gwyddelig. Dewisa bwnc sy’n dy ddiddori a galli gyfansoddi cerdd neu greu darn o gelf sy’n mynegi dy deimladau a dy feddyliau.

 

Mae adnoddau ar gael o wefan Never Such Innocence www.neversuchinnocence.com sydd wedi eu dylunio i dy gynorthwyo wrth anfon cais i’r gystadleuaeth. Yma hefyd galli ddod o hyd i’r gweithiau sydd wedi enill y gystadleuaeth o’r blaen, a rhywfaint o gyngor ar sut i ddechrau arni.

 

Cyflwyno cais

Rhaid i bob cais gynnwys ffurflen sydd ar gael ar wefan Never Such Innocence

Dylid ebostio ceisiadau digidol at: competition@neversuchinnocence.com

Dylid anfon ceisiadau post at: Never Such Innocence – C/O Cubitt Consulting, West Wing – Somerset House, Strand, London, WC2R 1LA

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.neversuchinnocence.com

Plant a Phobl Ifanc