Dewislen
English
.

Datganiad gan Llenyddiaeth Cymru, 11 Gorffennaf 2017

Cyhoeddwyd 24 Medi 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru

Ar ddydd Mercher 5 Gorffennaf, cyflwynodd Llenyddiaeth Cymru ymateb helaeth i’r Adolygiad Annibynnol o Gymorth ar gyfer Cyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru, a gadeirir gan yr Athro Medwin Hughes. Gwahoddwyd Llenyddiaeth Cymru gan Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates i gyflwyno ei ymateb yn dilyn cyfarfod rhwng Llenyddiaeth Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru ar 22 Mehefin.

Mae’r ymateb yn nodi nifer o wallau ffeithiol, anghysondebau, bylchau, ac enghreifftiau o gamliwio a gwrthddweud sy’n cael effaith andwyol ar hygrededd yr adolygiad. Mae hefyd yn codi cyfres o gwestiynau, ac yn gofyn i Llywodraeth Cymru ystyried a yw’r Panel wedi rhoi dadansoddiad cyflawn a diduedd o’r sector cyhoeddi a llenyddiaeth, a ph’un a yw wedi cyflawni telerau’r briff a roddwyd iddo. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwahodd yr Athro Medwin Hughes i ymateb i’r cyflwyniad mewn cyfarfod wyneb yn wyneb â Llenyddiaeth Cymru.

Byddai adolygiad annibynnol o’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r sector cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru wedi bod yn gyfle amserol a gwerthfawr i werthuso – a datblygu – bywiogrwydd ac effeithiolrwydd y sector amlochrog a hollbwysig hwn. Ers ei sefydlu yn 2011, mae Llenyddiaeth Cymru wedi arwain ar strategaeth sy’n sicrhau y caiff llenyddiaeth ei chynnal a’i chefnogi fel ffurf gelfyddydol ddemocrataidd sy’n perthyn i bawb (gyda ffocws penodol ar weithio gydag unigolion a chymunedau sydd mewn perygl o gael eu heithrio), ac wedi galw am sector mwy cysylltiedig ers tro. Gan hynny, edrychwyd ymlaen at ddarllen canfyddiadau’r adolygiad hwn. Mae’n drueni, felly, bod y cyfle wedi ei golli oherwydd diffygion sylweddol a sylfaenol yr adolygiad.

Mae’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Panel yn seiliedig ar dystiolaeth anghywir o gyfrifoldebau a rhaglen weithgareddau Llenyddiaeth Cymru. Mae’r adolygiad yn cynnwys naratif camarweiniol ac anghywir o drefniadau llywodraethu Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal â’i barodrwydd i gydweithio â’r Panel. Mae Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru yn cynnig manylion pellach ar y mater hwn mewn datganiad ar wahân.

Nid oes unrhyw sail i’r feirniadaeth a roddwyd gan y Panel mewn perthynas â threfniadau llywodraethu Llenyddiaeth Cymru. Roedd dogfennau sy’n gwrth-ddweud yr honiadau hyn ar gael i’r Panel, ac fe’u hategwyd gan dystiolaeth a gyflwynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn adrodd i amrywiaeth o fudiadau, ymddiriedolaethau a sefydliadau allanol, ac mae ei gyfrifon, a archwilir yn annibynnol, yn cael eu cyflwyno’n flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau, y Comisiwn Elusennau a Chyngor Celfyddydau Cymru. Ers sefydlu Llenyddiaeth Cymru yn 2011, nid yw’r sefydliadau hyn wedi codi unrhyw bryderon ynghylch tryloywder na thrylwyredd Llenyddiaeth Cymru.

Mae’r cyflwyniad a roddwyd gan y Panel o gyfrifoldebau a rhaglen weithgareddau lawn Llenyddiaeth Cymru yn wallus. Mae’r wybodaeth am Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn anghywir ac yn anghyfredol, ac nid yw’r adroddiad yn rhoi ystyriaeth gytbwys i ran helaeth o brosiectau mwyaf llwyddiannus Llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys: Bardd Cenedlaethol Cymru; Bardd Plant Cymru; Awdur Ieuenctid Cymru; gweithgarwch twristiaeth lenyddol (gan gynnwys Gwlad y Chwedlau); prosiectau rhyngwladol megis Barddoniaeth Colled a Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas; Her 100 Cerdd; a gwaith allestyn ac ymgysylltu mewn cymunedau difreintiedig.

Ni roddwyd sylw ychwaith i’r digwyddiadau a gynhaliwyd drwy gydol 2016 i ddathlu canmlwyddiant Roald Dahl. Gydag arian ychwanegol gan Llywodraeth Cymru, cefnogodd Llenyddiaeth Cymru raglen helaeth o weithgareddau ledled Cymru, gan ymgysylltu ag oddeutu 40,000 o bobl a chefnogi dros 130 o awduron ac ymarferwyr llenyddol i ddarparu gweithgareddau. Cynhaliwyd un o brosiectau allestyn Llenyddiaeth Cymru, a ysbrydolwyd gan Roald Dahl, yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe enillodd Wobr Celfyddydau a Busnes Cymru yn ddiweddar (23 Mehefin).

Gyda’r bylchau amlwg hyn, ac yn ei ddiffiniad o lenyddiaeth fel yr hyn a gyhoeddir mewn llyfr yn unig, mae’r Panel yn datgelu darlun cyfyng o’r sector sy’n anwybyddu miloedd o awduron a ffurfiau llenyddol cyfoes e.e. nofelau graffig, ffurfiau digidol fel #instapoetry, perfformwyr barddoniaeth a chyfansoddwyr caneuon. Mae Llenyddiaeth Cymru yn herio’r diffiniad cul hwn o lenyddiaeth a bydd yn parhau i alluogi sector llenyddol amrywiol, arloesol a chynhwysol.

Roedd yn galonogol derbyn cadarnhad fod gan Ysgrifennydd y Cabinet hyder yng ngallu Llenyddiaeth Cymru i ddarparu rhaglenni a mentrau llwyddiannus ar ran Llywodraeth Cymru. Gweledigaeth Llenyddiaeth Cymru yw bod llenyddiaeth yn perthyn i bawb ac ar gael ymhob man, ac mae’r gred hon yn parhau i fod yn sail i bob elfen o’n gwaith. Byddwn yn parhau i weithio’n greadigol gydag amrywiaeth eang o bartneriaid er mwyn sicrhau bod llenyddiaeth, fel y ffurf celfyddydol mwyaf democrataidd, yn parhau i fod yn llais i bawb.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn aros am ymateb ffurfiol gan Gadeirydd y Panel (ar wahoddiad Ysgrifennydd y Cabinet) ynghylch y pryderon a godwyd.

 


 

GWYBODAETH BELLACH

 

Costau Cyflogau: Yn ôl yr adolygiad, roedd y Panel “yn synnu canfod bod 75% o gyllideb Llenyddiaeth Cymru yn cael ei wario ar gostau cyflogau ei staff ei hun” (t 63). Mae’r dadansoddiad hwn yn anghywir; y ffigwr gwirioneddol, fel a gyflwynwyd mewn adroddiadau cyllid i’r Panel, yw 44%-47% ar gyfer 2016-19. Mae’r ffigwr hwn yn gyson â’r tair blynedd ariannol ddiwethaf, 2013-16.

 

Trefniadau Llywodraethu: Mae Llenyddiaeth Cymru yn adrodd i amrywiaeth o fudiadau, ymddiriedolaeth a sefydliadau allanol. Caiff ei gyfrifon, a archwilir yn annibynnol, eu cyflwyno’n flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau, y Comisiwn Elusennau a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd wedi bod yn un o ddosbarthwyr dirprwyedig Cronfa’r Loteri ers 2015, a bu’n destun archwilio manwl gan Lywodraeth Cymru yn ystod y broses o wneud cais i gyflwyno mentrau fel Dylan Thomas 100, Roald Dahl 100 Cymru a Gwlad y Chwedlau. Caiff ei Erthyglau Cymdeithasu eu cymeradwyo gan Dŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau, ac maent yn adlewyrchu’r cyngor a roddir ganddynt ac arfer da ym maes llywodraethu.

 

Cyfarfod rhwng y Panel a Chadeirydd Llenyddiaeth Cymru:  Gweler datganiad Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru ar y mater hwn (dyddiedig 6 Gorffennaf)

 

Llenyddiaeth Cymru mewn ffigyrau:

Yn y flwyddyn ariannol 2016 – 2017 mae Llenyddiaeth Cymru wedi:

  • Ymgysylltu â dros 101,000 o oedolion a 45,000 o blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru
  • Gweithio ym mhob un o’r awdurdodau lleol yng Nghymru
  • Dyfarnu gwerth £70,000 o ysgoloriaethau gan gefnogi 20 awdur
  • Cyrraedd cynulleidfa bosib o 3.7 miliwn trwy Wobr Llyfr y Flwyddyn
  • Derbyn dros 16,600 o ymweliadau i dudalen blog Her100Cerdd ar ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth gyda chyrhaeddiad cyfryngau cymdeithasol posib o dros 1.67 miliwn
  • Cefnogi 421 digwyddiad, gweithdy a sgwrs llenyddol trwy ei gynllun Awduron ar Daith
  • Gweithio gydag o leiaf 500 o awduron ar draws ei holl brosiectau
  • Codi dros £200,000 mewn grantiau prosiect ychwanegol
Literature Wales