Dewislen
English
Cysylltwch

Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth: Dathlu Cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru mewn gŵyl ryngwladol

Cyhoeddwyd Iau 5 Hyd 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth: Dathlu Cerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru mewn gŵyl ryngwladol
Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth dyma rannu cerdd gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, a gafodd ei chyfieithu’n ddiweddar i’r Gymraeg gan Iestyn Tyne yn ogystal ag i’r Ffrangeg ac Iseldireg a’i rhannu yng Ngŵyl Transpoesie, Brwsel. 

Gellir darllen ‘Beauty and Blood’ ynghyd â’r cyfieithiadau ar wefan Transpoesie: http://www.transpoesie.eu/poems/941 

Thema Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2023 yw Lloches, ac fel bardd Cymraeg-Iracaidd, mae Hanan Issa yn cymharu ecsbloetio llochesi diwylliannol yn Irac a Chymru yn y gerdd hon. Mae corsydd Hammar yn Nasiriyah, Irac a Chapel Celyn yn llochesi diwylliannol arwyddocaol sydd wedi cael eu dinistrio. 

Harddwch a Gwaed 

Ardal o gorstir yn Nasiriyah, Iraq yw’r Hammar. Sychodd Saddam y tiroedd hyn er mwyn rheoli Arabiaid y Corsydd. 

Mae Capel Celyn yn ardal yng Ngogledd Cymru a foddwyd ym 1965, er mwyn darparu rhagor o ddŵr i ddinas Lerpwl… 

 

Dychmyga wagio holl gorsydd Hammar 

i foddi Capel Celyn: cyfnewidfa ddagrau, 

hel pobl o le i le fel darnau gwyddbwyll. 

Sbecia rhwng siffrwd meddal cudynnau’r brwyn 

a gwylia ddafnau o fywyd yn llithro heibio. 

Wrth i’r dŵr godi dros Gymreictod y cwm 

clyw’r boen yn ffarwél y menywod 

sy’n cyfrin-datŵio straeon i’w crwyn ei gilydd. 

Yn yr harddwch a’r gwaed y mae’r hanes, o hyd. 

Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru 

Cyfieithiad Cymraeg gan Iestyn Tyne 

 

Ymunodd Hanan â beirdd o bob rhan o Ewrop yn yr ŵyl ym Mrwsel i ddathlu amrywiaeth. Mae gŵyl lenyddol Transpoesie yn cael ei chynnal bob blwyddyn i ddathlu Diwrnod swyddogol Ieithoedd Ewrop. Teithiodd Hanan Issa i Frwsel gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru 

Mae Hanan wedi mwynhau mis Medi prysur, bu hefyd yn ymweld â Gŵyl Lenyddiaeth Querétaro, Mecsico fel rhan o’i Chymrodoriaeth Ryngwladol Gŵyl y Gelli yn gynharach y mis hwn. 

Cyhoeddwyd ‘Beauty and Blood’ yn wreiddiol yn My Body Can House Two Hearts, Hanan Issa (Burning House)