Dewislen
English
Cysylltwch

Dwy Catherine yn teyrnasu yng ngwobrau New Welsh Writing Awards 2017 yng nghategoriau y nofela a chofiant

Cyhoeddwyd Mer 7 Meh 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dwy Catherine yn teyrnasu yng ngwobrau New Welsh Writing Awards 2017 yng nghategoriau y nofela a chofiant
Cyhoeddodd New Welsh Review, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth ac AmeriCymru, enillwyr gwobrau New Welsh Writing Awards 2017: Gwobr Prifysgol am Gofiant a Gwobr AmeriCymru ar gyfer y Nofela, mewn seremoni yng Ngŵyl y Gelli Iau 1 Mehefin.

Mae’r Gwobrau hyn yn hyrwyddo’r goreuon ymhlith cofiannau a nofelau byrion gan awduron sefydliedig newydd. Derbyniwyd ceisiadau gan awduron o Gymru, Lloegr a’r Unol Daleithiau. Roedd golygydd New Welsh Review, Gwen Davies, yn feirniad ar y ddwy gategori gyda chymorth myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Cyd-feirniad Gwobr y Nofela oedd y Cymro o America, yr awdur David Lloyd. Mae David yn awdur naw llyfr gan gynnwys casgliadau barddoniaeth, nofela a nofelau, a mae’n arwain rhaglen ysgrifennu creadigol prifysgol Le Moyne College yn Syracuse, NY.

Enillodd Catherine Haines, dinesydd deuol Seisnig-Awstralaidd, y Wobr Cofiant am ei phrofiad, fel menyw ifanc yn dioddef o anorecsia ym Mhrifysgol Rhydychen, dan y teitl My Oxford. Cath Barton, sy’n byw yn Y Fenni, a enillodd Gwobr y Nofela gyda’i stori The Plankton Collector, pastiche ysgafn o fyd delfrydol yn llawn archdeipiau a fydd yn ein helpu i iachau a dysgu.

Cyflwynwyd i’r ddwy awdur sieciau am £1,000 fel blaendal ar gytundeb e-gyhoeddi gan New Welsh Review ar eu gwasgnod New Welsh Rarebyte. Byddent hefyd yn derbyn beirniadaeth bositif gan asiant blaenllaw cwmni Curtis Brown, Cathryn Summerhayes.

Gallwch weld animeiddiad o My Oxford yma The Plankton Collector yma. Crewyd y ddau fideo gan un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth, Emily Roberts.