Dewislen
English
Cysylltwch

Dyddiad cau cyflwyno yn agosáu – gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018

Cyhoeddwyd Maw 21 Tach 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dyddiad cau cyflwyno yn agosáu – gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno llyfrau i’w cael eu hystyried ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018 yw Dydd Gwener 1 Rhagfyr 2017.*

Dyfernir Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol. Dyfernir y gwobrwyon i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.

Mae cyfanswm o ddeg gwobr, gyda chyfanswm o £12,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn Gymraeg ac yn Saesneg mae tri enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.

Cliciwch yma ar gyfer y Meini Prawf Cymhwysedd, a gwybodaeth am sut i gyflwyno teitlau.

*Dyma’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno llyfrau a gyhoeddwyd rhwng 1 Ionawr – 30 Tachwedd 2017. Dylid cyflwyno llyfrau a gyhoeddwyd rhwng 1 – 31 Rhagfyr 2017 erbyn 31 Ionawr 2018.

Llyfr y Flwyddyn