Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad: Comisiynu Adnoddau i Ddatblygu TGAU Llenyddiaeth Saesneg

Cyhoeddwyd Maw 10 Gor 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Galwad: Comisiynu Adnoddau i Ddatblygu TGAU Llenyddiaeth Saesneg
Gwyneth Lewis

Mae CREW – Prifysgol Abertawe a Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi 15 comisiwn i greu adnoddau newydd ar gyfer athrawon TGAU Llenyddiaeth Saesneg CBAC. Bydd y rhain ar gael i’w lawr lwytho am ddim ac yn cael eu cyhoeddi’n eang yn ystod eu defnydd dwy flynedd, gyda phosibilrwydd y bydd y cyfnod yn cael ei ymestyn. Y nod yw cefnogi athrawon, sydd yn eu tro yn annog y disgyblion i ymddiddori yn llenyddiaeth Cymru a’i awduron.

Noder os gwelwch yn dda nad yw’r adnoddau wedi eu hardystio nac ychwaith yn gysylltiedig â CBAC mewn unrhyw fodd.

Bydd pob adnodd yn canolbwyntio ar un o’r 15 cerdd sydd wedi eu dewis fel rhan o faes llafur CBAC 2018-2020, sydd yn deillio o flodeugerdd Library of Wales Poetry 1900-2000: One Hundred Poets from Wales. Dyma’r cerddi dan sylw:

 

Jugged Hare Jean Earle (tud.126)

Antonia’s Story Owen Sheers (tud. 856)

A True Story Owen Sheers (tud.857) 

Eclipse Owen Sheers (tud.858)

A Marriage R S Thomas (tud. 151) [Eisoes wedi ei gomisiynu]

Advice on Adultery Gwyneth Lewis (tud.781)

From His Coy Mistress Deryn Rees-Jones (tud.829)

Goodbye Alun Lewis (tud.179)

Toast Sheenagh Pugh (tud.692)

Wild Cherry Nigel Jenkins (tud.661)

Epithalamion Dannie Abse (tud.305)

Not Adlestrop Dannie Abse (tud.314)

My Box Gillian Clarke (tud.480)

The Bride Chest Eiluned Lewis (tud.38)

Ship’s Sirens Eiluned Lewis (tud.39)

 

Bydd pob adnodd yn cael ei greu fel taflen gymorth i athrawon, wedi ei ddylunio a’i deiposod gennym ni, i’w ddefnyddio fel cefnogaeth ar gyfer cynllunio gwersi. Mae taflen gymorth ar A Marriage RS Thomas (tud. 151) ar gael fel esiampl er mwyn cynorthwyo gyda’r fformat a’r arddull.

Mae cynnwys y comisiwn fel a ganlyn:

  • Cyflwyniad/bywgraffiad 250 o eiriau am y bardd. Dylai’r cynnwys fod yn hanesyddol, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac os yn bosib yn manylu ar yr agwedd Gymreig. Os mai bywgraffiad sydd fwyaf addas, gweler y bywgraffiadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi ym mlodeugerdd Library of Wales, a dylid osgoi ailadrodd pe nad yw’n berthnasol i’r gerdd.
  • Dadansoddiad manwl o’r gerdd (gyda chyfeiriadau at linellau). RHAID i’r darn hwn fod yn glir, yn gryno ac wedi ei strwythuro’n ofalus. Ni ddylid fod yn fwy na dwy dudalen (gweler yr esiampl).
  • Crynodeb byr (300 gair) am y gerdd
  • Llun o’r bardd gyda chaniatâd gan yr awdur a’r ffotograffydd i’w ddefnyddio ar gyfer y diben hwn
  • Unrhyw luniau eraill all fod yn berthnasol (e,e lluniau sy’n ymwneud â’r testun megis tirluniau) gyda chaniatâd gan y ffotograffydd i’w ddefnyddio ar gyfer y diben hwn
  • Dolenni n cysylltu unrhyw ddeunyddiau ar-lein sy’n berthnasol i’r gerdd, ac sy’n addas ar gyfer disgyblion TGAU
  • Tri neu bedwar o gwestiynau y gallai athrawon eu defnyddio i holi’r disgyblion am y gerdd
  • Tri neu bedwar o gwestiynau i ofyn i’r bardd (neu arbenigwr ar y bardd) am eu barddoniaeth (ymdrechwn i ffilmio cyfweliad byr a darlleniad gyda phob bardd a’u cyhoeddi ar-lein).

Cyfanswm geiriau: Tua 2,500 o eiriau
Ffi pob comisiwn:
£165 (gan gynnwys TAW)
Dyddiad cwblhau:
Drafftiau cyntaf erbyn 31 Awst, gyda’r nod o’u cyhoeddi yn wythnos gyntaf Medi


Rhaid i ymgeiswyr gael gwybodaeth gref o’r cyd-destun llenyddol yn ogystal â gwybodaeth manwl am y gerdd / bardd y byddant yn ei drafod, ac wedi (neu ar ganol) gweithio tuag at Ddoethuriaeth neu brofiad cyffelyb yn y maes penodol hwnnw.

I ymgeisio, e-bostiwch k.bohata@swansea.ac.uk erbyn dydd Llun 23 Gorffennaf 2018, gan gyfeirio at y restr isod:

  • Llythyr cyflwyniadol yn cynnwys:
  1. Eich enw a’ch cyfeiriad
  2. Y gerdd/cerddi rydych yn eu cynnig
  3. Pam eich bod chi’n gymwys i weithio arni/arnynt – profwch eich gwybodaeth o’r cyd-destun llenyddol a’ch gwybodaeth am bob cerdd a bardd
  • Esiampl/au o ddadansoddiad beirniadol heb fod yn fwy na dwy ochr A4.

Os ydych chi’n ansicr os ydych chi’n gymwys i ymgeisio, neu os hoffech drafod y cyfle hwn ymhellach, cysylltwch â’r Athro Kirsti Bohata, Cyfarwyddwr CREW ar k.bohata@swansea.ac.uk

Mae’r comisiwn hwn yn cynnwys peilot ar gyfer adnoddau datblygu pellach, gyda’r nod o gynyddu’r niferoedd sy’n astudio Barddoniaeth a Cherddi o Gymru yn yr ysgolion, ac o’r herwydd yn datblygu diddordeb mewn llenyddiaeth o Gymru.

CREW (Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) yw’r arweinydd rhyngwladol yn y maes astudio llenyddol a diwylliannol hwn, wedi ei leoli ym Mhrifysgol Abertawe. Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru, wedi’i ariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cyfleoedd, Literature Wales