Dewislen
English
.

GWLAD Y CHWEDLAU: Gwefan newydd yn tywys ymwelwyr ar daith ryngweithiol drwy hanesion Cymru

Cyhoeddwyd 26 Mehefin 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gall y rheini sy’n ymweld â Chymru bellach gynllunio taith bersonol sydd wedi’i seilio ar eu hoff lyfrau a chwedlau.

Mae straeon anarferol ac annisgwyl am fôr-ladron, rebeliaid, smyglwyr a chariadon coll – ynghyd â’r cysylltiad rhwng Cymru a rhai o lyfrau mawr y byd – i gyd yn ymddangos mewn un lle ar-lein am y tro cyntaf erioed, a hynny drwy brosiect rhwng gwahanol bartneriaid o dan arweiniad Llenyddiaeth Cymru.

Mae gan Gymru dreftadaeth lenyddol heb ei hail yn Gymraeg a Saesneg ill dau. Dyna ichi feirdd fel Dafydd ap Gwilym, Gillian Clarke a Dylan Thomas; awduron plant fel Roald Dahl a T Llew Jones; y nofelwyr cyfoes Caryl Lewis, Cynan Jones ac Owen Sheers; heb sôn am chwedlau rhyfeddol a byw y Mabinogi.

Y nod yw dangos y gorau o lenyddiaeth, diwylliant a mythau Cymru, a hynny yn yr union fannau a ysgogodd ac a ysbrydolodd y rheini. Bydd Gwlad y Chwedlau yn tywys ymwelwyr ar deithiau hudolus, gan eu cyflwyno i’r straeon a’r cymeriadau sydd wedi creu’r wlad. Mae llwybr Alice in Wonderland yn Llandudno, tirlun diwydiannol trawiadol y Cymoedd, a hanesion fampiriaid Llanilltud Fawr ymhlith y cannoedd o atyniadau llenyddol sydd wedi’u rhoi ar y map drwy wefan newydd ‘Gwlad y Chwedlau’.

 

 

Gan weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cymru, Amgueddfa Cymru ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog, bydd y map newydd o straeon Cymru yn arwain ymwelwyr ar deithiau i weld llecynnau cudd yn ogystal â mannau mwy cyfarwydd. Bydd y cyfan wedi’i seilio ar ddewisiadau’r ymwelwyr wrth edrych ar hanesion am gestyll arswydus, tywysogion arwrol ac angenfilod rhyfedd.

Mae’r rhain yn ymddangos o dan ddeg thema sy’n sôn am ddŵr, brwydrau, yr iaith, llên gwerin, llefydd cysegredig, y Brenin Arthur, plentyndod, ysbrydion, diwydiant a rebeliaid. Ceir ym mhob categori ddwsinau o lefydd sy’n gysylltiedig â straeon, nofelau a mythau rhyfeddol, gan roi syniadau hefyd am lefydd i fwyta ac yfed, am lwybrau i’w crwydro ac am fannau i aros ynddynt.

Gall ymwelwyr bori drwy’r map, gan ddewis llefydd sy’n cyd-fynd â’u hobïau a’u diddordebau. Unwaith y byddant yn fodlon â’u dewis – dewis sy’n cynnwys adfeilion eglwysi ac ogofâu cudd, llwybrau coediog, tafarndai a mynyddoedd – byddant yn cael cynllun taith personol drwy e-bost, sy’n golygu bod antur lenyddol unigryw yn cael ei chreu bob tro.

Mae’r thema dŵr (O ddiferol ddifyrrwch) yn rhoi sylw i raeadrau, ogofâu, llynnoedd a thonnau; mae’r adran ar frwydrau (Brwydrau ac arfau: i’r gad) yn edrych ar ryfelwyr, milwyr, cestyll a theyrnasoedd. Y Gymraeg a hunaniaeth Cymru sydd dan sylw yn y darnau am yr iaith (Yn Gymraeg mae’i morio hi).

Bwrw golwg ar fythau i’ch synnu a’ch rhyfeddu y mae’r adran am lên gwerin (Geiriau ein llên gwerin) tra cawn ein cyflwyno i baganiaid a phererinion hefyd (Yr hudol a’r cysegredig). Myrddin, dreigiau a Chaledfwlch sy’n cael sylw yn yr adran am y Brenin Arthur (Arthur a’i wyrthiau) ac mae’r darnau am blentyndod (Antur byd y plentyn) yn ein cyflwyno i straeon a fydd yn diddanu’r teulu i gyd.   

Mae’r adran am arswyd, ysbrydion ac Annwn (Sŵn y marw’n ymyrryd) yn siŵr o’ch dychryn; ceir darnau eraill sy’n edrych ar dreftadaeth ddiwydiannol a chwys llafur (Y wlad a’i chaledi). Cawn gip hefyd ar ddihirod, terfysgwyr a tharanwyr (Gwrthryfel a rebeliaid).

Mae’r arlunydd Pete Fowler, sy’n adnabyddus am ei waith dylunio gwych i’r Super Furry Animals, wedi creu cyfres o ddarluniau byw i gyd-fynd â phob thema a map i’w ddefnyddio ar y wefan.

Yn Ninas Mawddwy, bydd ymwelwyr yn clywed am y genfigen ymhlith pobl ifanc a oedd yn sail i The Owl Service, nofel ffantasi enwog Alan Garner yn 1967, gan ddysgu ar yr un pryd am hynt a helynt Gwylliaid Cochion Mawddwy.

Yng Nghaerdydd, bydd cyfle i ddod i wybod popeth am Roald Dahl gan ddilyn llwybr arbennig drwy’r brifddinas – o’r Croc yn y Doc a seiliwyd ar The Enormous Crocodile i’r Eglwys Norwyaidd brydferth lle cafodd ei fedyddio. Mae’r llwybr wedyn yn mynd yn ei flaen at y siop losin a ysbrydolodd The Great Mouse Plot ac Eglwys Gadeiriol ysblennydd Llandaf yn y pentref lle cafodd ei addysg.

 

“Mae Cymru yn gyfrol o straeon ynddi’i hun, ac mae chwedl yn llechu ym mhob cilfach. Mae’r ymdeimlad o le yn bwysig i gynifer o’n hawduron. Bydd yr adnodd newydd hwn yn caniatáu i unrhyw un sy’n ymweld â Chymru ddilyn eu llwybr llenyddol eu hunain a darganfod rhywbeth newydd am ein gwlad.

“Eleni mae Croeso Cymru yn dathlu Blwyddyn y Chwedlau ac mae blwyddyn Visit Britain yn rhoi sylw i arwyr llenyddol, felly prin fod adeg well i ymwelwyr gynllunio’u teithiau llenyddol eu hunain drwy Gymru.

“Bydd y prosiect newydd hwn yn ein cyflwyno i’r hyn sydd eisoes yn fyd-enwog yn ogystal â rhai o drysorau a chysylltiadau llenyddol llai cyfarwydd Cymru.”

Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru

Cefnogwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Arloesi Cynnyrch Croeso Cymru sy’n cefnogi’r Flwyddyn Chwedlau 2017.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: “Y mae’r prosiect hwn yn ffordd wych i ddod â chyfoeth hanes, diwylliant a chwedlau Cymru’n fyw ac fe fydd yn cyfoethogi profiad yr ymwelydd drwy ddangos y berthynas rhwng tirweddau a lleoedd â chwedlau a llenyddiaeth.  Bydd yn gyfle gwerthfawr i’n hymwelwyr i ddysgu mwy ac i gymryd rhan yn ein stori epic yn ystod 2017.”

I gychwyn ar eich taith, ewch i www.gwladychwedlau.cymru

Literature Wales