Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Cymraeg Tir na n-Og 2018

Cyhoeddwyd Gwe 1 Meh 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwobr Cymraeg Tir na n-Og 2018
Ar 31 Mai cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2018 o lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed.

Mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd brynhawn Iau, 31 Mai, cyflwynwyd y gwobrau i  Mererid Hopwood  am ei chyfrol  Miss Prydderch a’r Carped Hud  (Gwasg Gomer), ac i  Myrddin ap Dafydd  am ei nofel  Mae’r Lleuad yn Goch  (Gwasg Carreg Gwalch).

Cyflwynir Gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Fe’u sefydlwyd yn 1976, a thros y blynyddoedd cawsant eu cyflwyno i rai o brif awduron llyfrau plant Cymru.

Enillydd y categori cynradd  yw Mererid Hopwood o Gaerfyrddin, am y teitl cyntaf mewn cyfres o lyfrau a gyhoeddir gan Wasg Gomer am Miss Prydderch, yr athrawes anghyffredin, a’i hanturiaethau.

Dywedodd Llinos Davies, Cadeirydd y Panel Beirniaid: “Dyma nofel ysgafn a chyfoes sy’n chwa o awyr iach. Mae’r awdur a’r darlunydd wedi gweld cyfle i bontio rhwng technoleg a’r gair printiedig, a dyma un ffordd ymlaen i sicrhau bod llyfrau’n parhau yn ddeniadol i blant mewn byd mor gystadleuol.”

Ychwanegodd: “Mae’r nodiadau bach yn cynnig eglurhad ar eiriau anodd ac ymadroddion diddorol. Gall hyn roi hyder i blant wrth iddynt ddysgu geiriau ac ymadroddion newydd, a hynny heb iddynt sylwi eu bod yn dysgu gan fod hwyl i’w chael wrth fynd ar antur yng nghwmni’r holl gymeriadau.”

Cafodd Mererid ei geni a’i magu yng Nghaerdydd. Graddiodd mewn Sbaeneg ac Almaeneg yn Aberystwyth, cyn cwblhau doethuriaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Bellach mae’n byw yng Nghaerfyrddin gyda’i theulu ac mae’n Athro ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Hi yw’r ferch gyntaf i gyflawni’r gamp o ennill tair prif wobr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Meddai Mererid: “Mae ennill Gwobr Tir na n-Og am y nofel gyntaf yng nghyfres Dosbarth Miss Prydderch yn hwb aruthrol i mi. Hoffwn ddiolch i Sioned Lleinau a Gwasg Gomer am gefnogi’r syniad flynyddoedd maith yn  ôl ac i Nia Parri a’i chriw am ddal ati gyda’r sgribls a’r stwff a’r swigod i gyd. Diolch hefyd i Rhys Bevan Jones am y lluniau gwych ac i Gyngor Llyfrau Cymru am yr holl anogaeth.”

Enillydd y categori uwchradd  yw Myrddin ap Dafydd, a hynny gyda’i gyfrol  Mae’r Lleuad yn Goch  (Gwasg Carreg Gwalch). Nofel yw hon sy’n clymu’r Tân yn Llŷn yn 1936 a’r ymosodiad ar Guernica yng Ngwlad y Basg yn 1937. Gadawodd y gyfrol gryn argraff ar aelodau’r panel, gyda’r ddwy stori’n cydgyffwrdd drwy’r nofel.

Meddai Llinos Davies: “Mae hon yn stori sydd wedi ei saernïo’n gelfydd mewn tair rhan a’r cwbl yn gwau at ei gilydd gan blethu’r digwyddiadau’n grefftus. Mae cyfoesedd yn perthyn i’r nofel yn ogystal  â’r elfennau hanesyddol.”

Ganwyd y Prifardd Myrddin ap Dafydd yn Llanrwst. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ef yw sefydlydd Gwasg Carreg Gwalch. Yn awdur toreithiog, enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2001 ac mae bellach yn byw yn Llwyndyrys ger Pwllheli gyda’i deulu.

Dywedodd Myrddin, “Braint ac anrhydedd yw derbyn Gwobr Uwchradd Tir na n-Og 2018. Mae ‘sgwennu nofelau yn waith llawer mwy unig na byd barddoniaeth Gymraeg ac felly mae’n wych iawn cael ymateb gan gynulleidfa a beirniaid. Mae’n hwb i ‘sgwennu mwy!”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Hoffem longyfarch Mererid a Myrddin yn fawr ar ennill Gwobr Tir na n-Og eleni. Roedd safon y llyfrau ar y rhestr fer yn uchel iawn eleni eto, gan gynnwys ystod eang o deitlau i’r arddegau. Mae’n diolch yn enfawr i’r awduron a’r cyhoeddwyr am eu gwaith. Estynnwn ein llongyfarchiadau diffuant hefyd i’r cyhoeddwyr buddugol  –  Gwasg Carreg Gwalch a Gomer  –  ar eu llwyddiant.”

Meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor: “Dyma ddwy gyfrol sy’n herio plant a phobl ifanc  â chyfleoedd darllen amrywiol. Mae hyn yn amserol dros ben yn sgil ymchwil diweddar gan Wasg Prifysgol Rhydychen am yr hyn a elwir yn ‘fwlch geirfa’, sef diffyg mewn sgiliau cyfathrebu ymhlith plant a phobl ifanc. Awgrymir mai un rheswm dros y ‘bwlch geirfa’ yw’r diffyg cyfleoedd i ddarllen er mwyn pleser, cyfleoedd sydd wrth wraidd ein holl brosiectau ni fel corff sy’n hyrwyddo darllen.”