Dewislen
English
Cysylltwch

Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2017

Cyhoeddwyd Mer 1 Chw 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2017

25 – 26 Mawrth a 1 – 2 Ebrill

Lleoliadau Amrywiol, Caerdydd

Pob sesiwn yn £4

 

Bydd Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2017 yn dychwelyd eleni rhwng 25 Mawrth a 2 Ebrill, ac wedi dathlu canmlwyddiant geni storïwr gorau’r byd y llynedd, mae Caerdydd yn edrych ymlaen at fwy o hwyl yn y byd llyfrau.

Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2016 oedd yr ŵyl mwyaf llwyddiannus eto gyda dros 50 o ddigwyddiadau a 5000 o docynnau wedi’u gwerthu. Bydd Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2017 yn well fyth! Mae’r digwyddiad wedi parhau i dyfu dros y blynyddoedd a bydd yn rhedeg unwaith eto dros ddau benwythnos. Unwaith eto, bydd awduron a darlunwyr yn rhoi bywyd i’w geiriau a’u lluniau gyda straeon gwych a pherfformiadau’n cynnwys cast o gymeriadau ardderchog. Mae’r ŵyl yn ddelfrydol i’r rhai hynny sy’n caru llyfrau plant. Plant neu oedolion – mae croeso i bawb!

Eleni mae llond trol o awduron, cymeriadau ac artistiaid Cymraeg yn cymryd rhan gan gynnwys Alun Saunders, Atebol, Anni Llŷn (Bardd Plant Cymru), Barti Ddu, Siân Lewis, Huw Aaron, Manon Steffan Ros, Rufus Mufasa, Siôn Tomos Owen, Mair Tomos Ifans, Dewi Dewr, Sali a’r bownsiwr gofod gwyllt, Cledwyn y môr-leidr, Myfanwy’r campyrfan a Rhodri Owen, y cyflwynydd teledu.

Bydd digonedd o weithdai ysgrifennu a sesiynau gwrando ar stori neu chwedl. Cewch hefyd gyfle i ganu a dawnsio, mwynhau sioe ddrama un dyn a chymryd rhan mewn cwis i’r teulu cyfan. Mi fydd rhywbeth at ddant pawb.

Er mwyn prynu tocynnau ewch i https://www.ticketlineuk.com/ticket/445826/cardiff-childrens-literature-festival-tickets/

@GwylLlenPlant

@CDFKidsLitFest

Plant a Phobl Ifanc