Dewislen
English
Cysylltwch

Croesawu Kevin Powell yn ôl i Gymru

Cyhoeddwyd Mer 22 Tach 2017 - Gan Literature Wales
Croesawu Kevin Powell yn ôl i Gymru

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o groesawu un o leisiau cyfoes gwleidyddol, llenyddol a hip-hop mwyaf poblogaidd America yn ôl i Gymru yr hydref hwn. Bydd Kevin Powell yn ymweld â Chaerdydd yr wythnos hon am ddiwrnod o sgyrsiau ysbrydoledig gyda grwpiau o bob math; o wneuthurwyr polisi i grwpiau ieuenctid lleol. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio â phartneriaid yn Llywodraeth Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru i hwyluso ei ymweliad.

 

Daeth Kevin Powell ar ei ymweld cyntaf â Chymru ‘nol yn 2014 fel un o bencampwyr rhyngwladol Dylan Thomas 100, lle bu’n annog grwpiau o bobl ifanc i edrych ar waith Dylan Thomas mewn dulliau newydd. Yn areithiwr ysbrydoledig, mae Kevin Powell hefyd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gan gynnwys ei gofiant diweddar The Education of Kevin Powell. Fel un o awduron pennaf Vibe Magazine, mae wedi cynnal cyfweliadau gydag unigolion amrywiol; o Tupac Shakur i Colin Powell.

 

Wrth drafod ei ymweliad arfaethedig, dywedodd Kevin Powell: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i ddychwelyd i Gymru rai blynyddoedd wedi i mi weithio mor agos gydag arweinwyr gwleidyddol a diwylliannol ac aelodau o gymunedau de Cymru yn ystod dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. O ystyried y cyfan sy’n digwydd yma heddiw o ran arweinyddiaeth, amrywiaeth, trais ac argyfwng dyndod, rwy’n teimlo ei bod yn bwysicach nag erioed fod pobl fel fi yn helpu i feithrin sgyrsiau sy’n arwain tuag at iachâd a newid.”

 

Mae ei ymweliad yn digwydd cyn iddo gymryd rhan yng ngŵyl fawreddog y Southbank Centre, yr Being a Man Festival.

Literature Wales