Dewislen
English
Cysylltwch

Lansiad Cyhoeddus Ffrindiau Darllen

Cyhoeddwyd Maw 30 Hyd 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Lansiad Cyhoeddus Ffrindiau Darllen

Ar ddydd Mawrth 30 Hydref 2018, cynhaliwyd lansiad cyhoeddus cynllun Ffrindiau Darllen yn y BFI Southbank Centre, Llundain.

Mae Ffrindiau Darllen yn rhaglen gyfeillio a gynhelir ledled y DU a ddyfeisiwyd gan The Reading Agency ac a ariannir gan Gronfa’r Loteri Fawr. caiff y cynllun ei gydlynu gan sefydliadau partner yn y gwledydd amrywiol, ac rydym yn falch o arwain gweithgaredd Ffrindiau Darllen yng Nghymru.

Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus, cymunedau lleol a sefydliadau gwirfoddol, mae’r prosiect yn bwriadu galluogi, cyfranogi ac ymgysylltu pobl hŷn a phobl sydd â dementia a Gofalwyr trwy sbarduno sgyrsiau wrth ddarllen. Caiff Reading Friends ei gyd-gynhyrchu gyda phobl hŷn, a’i gyflwyno gan wirfoddolwyr.

O fis Medi 2018 – Medi 2019, mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth á Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy ac Age Connects yng Nghonwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg yn Abertawe i roi dau wahanol ddull o gyflwyno’r cynllun ar brawf. Mae Ffrindiau Darllen Sir Conwy yn ffrwyth cydweithio rhwng llyfrgelloedd a chartrefi gofal ledled y sir, gan ddarparu’r gwasanaeth mewn cymunedau cefn gwlad, yn benodol mewn ardaloedd lle mae’r diwydiant ffermio yn gryf a’r Gymraeg yn iaith gyntaf i’r trigolion. Bydd Ffrindiau Darllen Abertawe yn galw myfyrwyr Prifysgol Abertawe, staff y Bwrdd Iechyd a gwirfoddolwyr i ddarllen yn gymdeithasol ar wardiau yn Ysbyty Singleton, gan weithio gyda Llyfrgell Ganolog Abertawe a Discovery fel partneriaid allweddol.

Lansiwyd y cynllun yn Llundain ar ddydd Mawrth 30 Hydref 2018 gyda dangosiad cyntaf y ffilm Yarn, Natter, Blether, cynhyrchiad gan Right Thing Films sy’n cynnwys clipiau o Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru yn adrodd cerdd a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y cynllun, ‘Dechrau’r daith’. Ysgrifennwyd y gerdd mewn ymateb i sgyrsiau gyda chyfranogwyr Ffrindiau Darllen yng Nghonwy. Bydd Llenyddiaeth Cymru a’r partneriaid perthnasol yn lansio’r cynllun Ffrindiau Darllen yng Nghymru yn 2019.

 

 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ymrwymedig i lesiant yn y celfyddydau, ac mae Ffrindiau Darllen Cymru yn dangos sut y gall llenyddiaeth a darllen creadigol gael effaith bositif ar iechyd corfforol a meddyliol.

Am ragor o wybodaeth, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Ffrindiau Darllen, neu cysylltwch á Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org

Uncategorized @cy