Dewislen
English
Cysylltwch

Lansiad Swyddogol Ffrindiau Darllen

Cyhoeddwyd Llu 16 Hyd 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Lansiad Swyddogol Ffrindiau Darllen

Dydd Llun 16 Hydref 2017

12.00 pm – 1.30 pm

 

Llyfrgell Llanrwst

Plas-yn-Dre; Heol yr Orsaf, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF

 

Hoffai Llenyddiaeth Cymru a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy
eich gwahodd i ymuno â hwy ar gyfer lansiad Ffrindiau Darllen Cymru
yn Llyfrgell Llanrwst ddydd Llun 16 Hydref 2017.

 

Mae Ffrindiau Darllen yn brosiect ar gyfer gwirfoddolwyr (Partneriaid Darllen) a phobl hŷn (Ffrindiau Darllen), sy’n defnyddio buddion darllen i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd ymysg pobl hŷn a’r rheini sy’n byw â dementia.

 

Bydd yr holl wirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant
cychwynnol a chefnogaeth barhaol.

 

I ddarganfod rhagor am y prosiect a sut y gallwch wneud
cais i fod yn Bartner Darllen, buasem yn falch o’ch gweld yn y lansiad.

 

Darperir lluniaeth ysgafn.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â

Cheryl Hesketh yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy:
Cheryl.Hesketh@conwy.gov.uk / 01492 576582

neu Catherine Kennedy yn Llenyddiaeth Cymru:
catherine.kennedy@literaturewales.org / 02920 472266

Llenyddiaeth Cymru