Dewislen
English
.

Gwledd lenyddol yn RawFfest GwylGrai

Cyhoeddwyd 19 Tachwedd 2017 - Gan Literature Wales

Mae’r ŵyl celfyddydau ieuenctid GŵylGrai – ac ynddi dros gant o weithdai a digwyddiadau – yn rhedeg o 17 tan 20 Awst yn Llandudno, mae’r ŵyl yn agored i bawb rhwng 14 a 25 oed. Dyma’r unig ŵyl genedlaethol yng ngwledydd Prydain wedi’i rhaglennu’n gyfan gwbl gan bobol ifanc i bobol ifanc ac mae ei chymanfa gyffrous yn ddrych o’r pethau mae gan y curaduron ifanc awch amdanynt.

Ymhlith uchafbwyntiau llenyddol yr ŵyl mae sesiwn blogio, barddoniaeth pync, cyhoeddi casgliado  gerddi, sesiwn beatbocsio, cymhorthfa barddoniaeth a sesiwn adrodd stori ac mi fydd Awdur Ieuenctid Cymru, Sophie Mckeand yn fardd preswyl drwy gydol yr ŵyl.

Am fwy o fanylion ewch i http://www.rawffest.wales/programme

Tocynnau dydd Sadwrn a Sul yn £20 yn cynnwys cinio a swper http://www.rawffest.wales/tickets