Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru a Bardd Plant Cymru yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu 2017

Cyhoeddwyd Gwe 16 Meh 2017 - Gan Literature Wales
Llenyddiaeth Cymru a Bardd Plant Cymru yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu 2017
Ar ddydd Llun, 19 Mehefin, aeth Casia Wiliam, sydd newydd ei phenodi’n Bardd Plant Cymru 2017-2019 ac Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru 2015-2017 i arwain eu gweithdy cyntaf gyda’i gilydd yn Ysgol Glan Ceubal yng Nghaerdydd. Roedd y gweithdy yn cyd fynd â’r ymgyrch newydd Diwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu sy’n cael ei gynnal heddiw ar 21 Mehefin.

Gweithiodd Casia ac Anni gyda disgyblion o flynyddoedd 3-6, gan ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a rhoi cyfle iddynt ysgrifennu a perfformio’i gwaith. Mae Diwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu yn annog pawb, be bynnag eich oed a’ch cefndir, i ysgrifennu – wedi’r cwbl, mae gan bawb stori i’w ddweud.

Dywedodd Casia: “Heb os mi gawn ni ddiwrnod gwych wrth i ni dorchi’n llewys a meddwl be sy’n gwneud stori dda, cyn mynd ati i roi pensel ar bapur! Mi fydd yn grêt cynnal gweithdy ar y cyd efo Anni, a chael cyfle i ddangos i blant Ysgol Glan Ceubal bod ‘na awdur yn cuddio ym mhob un ohonyn nhw.”

Mae cynllun Bardd Plant Cymru yn sicrhau fod plant ym mhob cwr o Gymru yn cael y cyfle i arbrofi â geiriau. Drwy weithdai, perfformiadau a gweithgareddau mae’r cynllun yn cyflwyno llenyddiaeth i blant mewn modd bywiog, deinamig a chyffrous. Dyma fenter sy’n annog creadigrwydd, sgiliau chyfathrebu a hunan-fynegiant ymysg plant Cymru.

Cynllun ar y cyd yw Bardd Plant Cymru rhwng Llenyddiaeth Cymru, Yr Urdd, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru. I ddarganfod mwy am y cynllun ewch i dudalen y cynllun.

Am rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu ewch i’w gwefan ble gallwch lawrlwytho deunyddiau i’ch ysgogi i ysgrifennu.

@writeday #DwedDyStori #DiwrnodCenedlaetholYsgrifennu #TellYourStory #NationalWritingDay