Dewislen
English
Cysylltwch

Llên yn Y Lle Celf

Cyhoeddwyd Llu 31 Gor 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llên yn Y Lle Celf

Bardd Y Lle Celf

Llion Pryderi Roberts yw Bardd Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Llion yw’r 21ain bardd i dderbyn y comisiwn.

Comisiynwyd y bardd, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, i ymateb i ddetholiad o 10 – 12 darn o waith celf yn Arddangosfa Agored Y Brifwyl.

Caiff y cerddi eu harddangos ochr yn ochr â’r gweithiau a’u hysbrydolodd yn Y Lle Celf, a bwriedir cyhoeddi’r cerddi yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn enedigol o Frynsiencyn, mae Llion Pryderi Roberts wedi ennill cadair Eisteddfod Môn ddwywaith ac yn aelod o dîm Aberhafren Talwrn y Beirdd Radio Cymru

Sefydlwyd yr arfer o wahodd bardd i ymateb  i’r gwaith celf yn yr Arddangosfa Agored adeg Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 1997 pan estynwyd gwahoddiad at y diweddar Brifardd Iwan Llwyd (1957 – 2010 ) i ymgymryd â’r gorchwyl.

Ynghyd â phontio dwy ffurf ar gelfyddyd, un o amcanion y comisiwn yw cynnig allwedd i’r cyhoedd i fynd i’r afael â’r gwaith yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf.

 

Bardd Pensaernïaeth

Elan Grug Muse sydd wedi ymateb ar ffurf barddoniaeth i’r adeiladau yn Arddangosfa Bensaernïaeth Y Lle Celf eleni.

Comisiynwyd y bardd, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru i ymweld ac ymateb i’r pedwar adeilad a gyrhaeddodd restr fer Y Fedal Aur am Bensaernïaeth – CUBRIC (Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd), Ysgol Bae Baglan ac Ysgol Uwchradd Y Rhyl a thŷ annedd ym Mro Gŵyr, Silver House.

Arddangosir y cerddi ochr yn ochr â ffotograffau James Morris o’r adeiladau sy’n ffurfio Arddangosfa Bensaernïaeth Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Bwriedir cyhoeddi’r cerddi wedi’r Eisteddfod.

Mae’r bardd yn dilyn Elis Dafydd (2016), Mari George (2015) ac Eurig Salisbury (2014) sydd wedi ymgymryd â’r dasg cyn hyn.

Enillodd Elan Grug Muse Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Benfro 2013 ac mae hi newydd gyhoeddi cyfrol gyntaf o farddoniaeth Ar Ddisberod (Cyhoeddiadau Barddas).

Bydd Llion Pryderi Roberts ac Elan Grug Muse yn adrodd eu cerddi yn Y Lle Celf am 12.00pm, brynhawn Llun, 7 Awst.

Llenyddiaeth Cymru