Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi trydydd Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas

Cyhoeddwyd Llu 13 Maw 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi trydydd Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas
Yn dilyn llwyddiant yr ail Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn 2016, mae manylion y trydydd dathliad blynyddol i un o lenorion enwocaf Cymru wedi cael eu cyhoeddi, gan gynnwys digwyddiadau ledled y DU, yn ogystal ag eraill sy’n dechrau ymddangos ym mhedwar ban byd.

Cynhelir ‘Dydd Dylan’ bob blwyddyn ar 14 Mai, sef y diwrnod y darllenwyd Under Milk Wood am y tro cyntaf ar lwyfan yn 92nd Street Y, The Poetry Cente yn Efrog Newydd yn 1953. Mae’n rhan o becyn nawdd gan Lywodraeth Cymru, a nod y diwrnod yw dathlu a chodi proffil gwaith Thomas yng Nghymru a thramor drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau, adnoddau addysgol a gweithgarwch ar gyfryngau cymdeithasol.

Cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas am y tro cyntaf yn 2015 yn dilyn y galw am sefydlu diwrnod cyhoeddus, wedi i Ŵyl 100 Dylan Thomas a barodd am flwyddyn gyfan gael croeso mor frwd gan y cyhoedd. Roedd yr ail ddathliad yn 2016 yn cynnwys 50 o ddigwyddiadau ym mhob cwr o’r byd. Gan adeiladu ar yr etifeddiaeth honno, mae’r diwrnod eleni yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, a rhai ohonynt wedi’u hysbrydoli’n uniongyrchol gan ddigwyddiadau’r canmlwyddiant a dathliad y llynedd.

Bydd Diwrnod Dylan 2017 yn dechrau gyda seremoni wobrwyo fawreddog ar 10 Mai i ddyfarnu Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 7.00 pm yn y Neuadd Fawr ar gampws trawiadol Prifysgol Abertawe, Campws y Bae. Bydd enw enillydd y wobr o £30,000 am y gwaith llenyddol gorau i gael ei gyhoeddi yn y Saesneg gan awdur 39 oed neu iau yn cael ei gyhoeddi gyda’r hwyr. Bydd y rheini sydd â thocyn yn cael mynediad i dderbyniad gyda gwin a chanapés. Mae’r wobr hefyd yn cynnwys digwyddiad yn y British Library yn Llundain ar nos Fawrth 9 Mai lle bydd yr awduron ar y Rhestr Fer yn darllen eu gwaith.

Wedyn, ar 13 Mai, bydd dathliadau estynedig Diwrnod Dylan yn dechrau yn Llundain ac yn Abertawe, dau o’r prif leoliadau sy’n gysylltiedig â’r bardd. Yn Llundain bydd Gwobrau Saboteur yn cyflwyno nifer o wobrau llenyddol, gan gynnwys Gwobr Wildcard, sy’n cael ei noddi eleni gan Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas. Bydd Cymdeithas Dylan Thomas, Cartref Genedigol Dylan Thomas, a Chôr Meibion Dyfnant yn perfformio ‘as I was young and easy’ – sef taith drwy fywyd Dylan mewn geiriau ac ar gân – yn Eglwys St James, Uplands, Abertawe o 7.00pm ymlaen.

Ar y Diwrnod ei hun, bydd y rheini sy’n ymweld ag Abertawe yn cael cyfle arall i fwynhau’r ap cerdded, Return Journey, a fydd yn cael ei berfformio gan Lighthouse Theatre am 10.30 am. Yn nes ymlaen, bydd  Do Not Go Gentle a Siop Lyfrau Symudol Dylan yn cynnal noson o gerddoriaeth, barddoniaeth a ffilmiau, yn ogystal â sgyrsiau yn dathlu Dylan Thomas gan Jeff Towns ac Allen Ginsberg, unigolyn y cafodd y bardd o Gymru ei ddylanwad mawr arno.

Fe gynhelir gweithdy ysgrifennu galw heibio gyda Sophie McKeand, Awdur Ieuenctid Cymru, rhwng 11.30 am a 12.30 pm yng Nghastell y Waun, sydd hefyd yn gysylltiedig â’r bardd o Gymru. Wedyn bydd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn ymuno â Sophie am 12.45 pm a bydd y ddau yn darllen barddoniaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd dau lansiad yn cael eu cynnal yn Llundain. Yn nhafarn y Wheatsheaf, bydd John Goodby yn lansio Discovering Dylan Thomas: A Companion to the Collected Poems and Notebook Poems (Gwasg Prifysgol Cymru), a bydd Hilly Janes yn lansio Ugly, Lovely (Parthian) rhwng 6.00 pm ac 8.00 pm, tra bydd Martin Daws, Cyn-awdur Ieuenctid Cymru, ac Aneirin Karadog, Cyn-fardd Plant Cymru, a’u cyd-berfformiwyr o sioe Dylan Live! 2015 yn lansio llyfr, CD a lawrlwythiad Wales Bird : Aderyn Rhiannon yng Nghanolfan Cymry Llundain.

Yn Efrog Newydd, bydd darllediad o berfformiad o Under Milk Wood yn 92nd Street Y o dan arweiniad Michael Sheen yn cael ei gyhoeddi ar-lein. Hefyd, bydd barddoniaeth yn cael ei darllen mewn tair gwlad drwy gysylltiad byw – gan gynnwys beirdd yn Efrog Newydd, yn Ferryside ac yn Tranås yn Sweden.

Mae cystadleuaeth lenyddol ar gyfer pobl ifanc o’r enw Dwlu ar y Geiriau wedi cael ei chyhoeddi eleni. Mae Dwlu ar y Geiriau yn fenter ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Discover Dylan Thomas.com, y wefan sy’n cael ei rhedeg gan Hannah Ellis, wyres Dylan. Gwahoddir pawb rhwng 7 a 25 oed yn unrhyw le yn y byd i gyflwyno cerdd wedi’i llunio o’r geiriau yn adrannau cychwynnol Under Milk Wood, a’i rhannu ar Twitter. Bydd y gorau o blith y rhain yn cael eu dewis gan Hannah Ellis ac yn cael eu harddangos ar wefan Discover Dylan Thomas.

Yn ogystal bydd Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn cydweithio â Wales Arts Review eleni i sicrhau fod rhagor o bobl yn dod i gyswllt â’i ddigwyddiadau a’i weithgareddau.

Dywedodd Cerys Matthews: “Mae Diwrnod Dylan, sy’n cael ei ddathlu ar y diwrnod y perfformiwyd Under Milk Wood am y tro cyntaf erioed, yn esgus gwych i ddathlu’r saer geiriau cain hwn yn ogystal â’r gwaddol gwych o ddramâu, cerddi, traethodau a llenyddiaeth ledled y byd.”

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: “Mae llwyddiant dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas a Roald Dahl yn dangos bod pobl yn awyddus i ddathlu ac i ddysgu mwy am ein ffigurau llenyddol a bod dathlu’r awduron byd-enwog hyn yn gallu codi proffil Cymru yn y DU a thramor.  Rwy’n gobeithio y bydd Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn datblygu i fod yn etifeddiaeth ac yn ganolbwynt ar gyfer y diddordeb a gafodd ei fynegi yn Dylan Thomas ac yng Nghymru yn ystod dathliadau’r canmlwyddiant.”

Gall unrhyw un yn unrhyw le gynnal eu digwyddiad eu hunain fel rhan o’r dathliad byd-eang. Ewch i gael rhagor o wybodaeth, a lawrlwytho’r logo a’r poster ar gyfer eleni, sydd wedi’u dylunio gan Jago, arlunydd poblogaidd y New York Times, o wefan Llenyddiaeth Cymru a dilyn yr hashnodau #DylanDay a #DyddDylan ar y cyfryngau cymdeithasol.

Uncategorized @cy