Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn comisiynu adolygiad o Wobrau Llyfr y Flwyddyn

Cyhoeddwyd Iau 12 Ion 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn comisiynu adolygiad o Wobrau Llyfr y Flwyddyn

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn comisiynu adolygiad o Wobrau Llyfr y Flwyddyn. Bydd yr adolygiad, a fydd yn edrych ar holl elfennau trefnu a chyflwyno’r gwobrau, yn cael ei gyflwyno i Llenyddiaeth Cymru erbyn diwedd Ebrill 2017.

Mae Gwobrau Llyfr y Flwyddyn, un o gynlluniau mwyaf ac amlycaf Llenyddiaeth Cymru, yn cael eu cyflwyno i’r gweithiau Cymraeg a Saesneg gorau ym maes ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen, a Ffeithiol-Greadigol.

Mae’r Gwobrau yn un o elfennau pwysicaf y byd llenyddol yng Nghymru, ac yn codi proffil llenyddiaeth o Gymru yng Nghymru a thu hwnt. Fel y wobr ddwyieithog fwyaf ar gyfer llenyddiaeth yng Nghymru, mae’n gyfle i ddathlu llwyddiannau’r diwydiant. Mae’n uchafbwynt blynyddol i awduron, darllenwyr, cyhoeddwyr, y cyfryngau a nifer o sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau ei ddyfodol.

Mae Llenyddiaeth Cymru’n awyddus i ddatblygu model fydd yn gweddu anghenion y sector yn well, yng Nghymru a thu hwnt ac a fydd yn ehangu cyrhaeddiad y gwobrau. Mae’r adolygiad hwn yn holi barn ystod eang o unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn, a gyda’r sector llenyddiaeth. Bydd hefyd cyfle i ddarllenwyr llenyddiaeth Gymraeg leisio’u barn trwy ymgynghoriad arlein.

Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd yn anelu at adnabod partneriaid ariannu newydd yn sgîl yr adolygiad a hoffai glywed gan unrhyw noddwyr newydd sydd â diddordeb mewn cefnogi datblygu’r Gwobrau.

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad gan Llenyddiaeth Cymru eu bod yn cynnal adolygiad o Wobr Llyfr y Flwyddyn gyda’r bwriad o ddatblygu model busnes newydd a chynaliadwy ar gyfer y gwobrau. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i gefnogi un o brif ddigwyddiadau’r calendr celfyddydol.”

Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn, cliciwch yma.

Llenyddiaeth Cymru