Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Chwedlau ar y Cledrau yn ôl

Cyhoeddwyd Maw 22 Mai 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae Chwedlau ar y Cledrau yn ôl
Disgyblion o Lanegryn a Tywyn gyda’r awdur Meinir Wyn Edwards yn arddangos eu bagiau nofio am ddim a’u llyfrau wedi’u noddi gan Bartneriaeth Rheilffordd y Cambrian.

Fel rhan o ymgyrch #LlyfrDaFabBooks, bu Cyngor Llyfrau Cymru yn trefnu taith awdur wahanol iawn ym mis Mai. Ar deithiau diweddar bu awduron yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru, ond y tro hwn cafodd y disgyblion gyfle i gwrdd â’r awdur ar daith drên!

Y disgyblion ffodus oedd plant adrannau iau Ysgol Penybryn, Tywyn ac Ysgol Craig y Deryn, Llanegryn. Yr awdur fu’n eu diddanu oedd Meinir Wyn Edwards, awdur y gyfrol Deg Chwedl o Gymru a gyhoeddir gan wasg y Lolfa, ac oedd wedi ei chynnwys ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og y llynedd.

Ar 16, 17 a 18 Mai bu Meinir yn cynnal gweithdai arbennig yng Nghastell Harlech, gan gyflwyno rhai o’n chwedlau mwyaf adnabyddus sydd wedi profi’n boblogaidd iawn yn ei chyfrolau Cymraeg a Saesneg. Cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu am ein treftadaeth lenyddol a diwylliannol mewn ffordd ddifyr a hwyliog wrth iddynt brofi chwedlau sy’n perthyn i’w hardaloedd eu hunain. Ychwanegiad cyffrous i’r digwyddiad eleni oedd sesiwn wybodaeth Ffrindiau Dementia, ymgyrch a drefnir gan Gymdeithas Alzheimer Cymru.

Esboniodd Pencampwr Ffrindiau Dementia, Cheryl Williams: “Mae traean o bobl ifanc yn adnabod rhywun sy’n byw gyda dementia. Mae hyn yn gyfle gwych i ddysgu am y pwnc er mwyn ein galluogi ni i greu Cenhedlaeth o Ffrindiau Dementia.”

Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng Chyngor Llyfrau Cymru, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian a Threnau Arriva Cymru.

Meddai Claire Williams, Swyddog Datblygu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian:Mae Trenau Arriva Cymru wedi arfer gweithio’n agos gydag ysgolion a llyfrgelloedd yr ardal, ac mae’r daith awdur i Harlech yn gyfle i ni godi ymwybyddiaeth ymhellach ynglŷn â diogelwch a gwasanaeth y rheilffordd. Mae’r golygfeydd yn sicr yn werth eu gweld – y llynedd fe ddewiswyd y daith o Gyffordd Dyfi i Bwllheli gan bapur newydd y Guardian yn un o ddeg taith drên fwyaf ‘epig’ y byd!”

Yn ôl Helen Jones o’r Cyngor Llyfrau: “Un o brif amcanion yr Adran Llyfrau Plant yw hyrwyddo darllen, ac mae ein cynllun @LlyfrDaFabBooks yn trefnu teithiau awduron i ysgolion ledled Cymru er mwyn hyrwyddo a chodi proffil llyfrau i blant a’r arddegau. Mae’r teithiau yn gyfle gwych i ni gefnogi addysgu a dysgu darllen yn ein hysgolion mewn ffordd ymarferol, ac mae’r bartneriaeth eleni gyda Ffrindiau Dementia yn ychwanegiad gwerthfawr iawn.”