Dewislen
English
Cysylltwch

Torri tir newydd unwaith eto yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Cyhoeddwyd Gwe 19 Hyd 2018 - Gan Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Torri tir newydd unwaith eto yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn yn dathlu penllanw project ailddatblygu Sain Ffagan gyda cherdd gomisiwn newydd

Gwahoddir ymwelwyr â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru – atyniad treftadaeth fwyaf a mwyaf poblogaidd Cymru – i ddod i ‘greu hanes’ yn dilyn cwblhau project ailddatblygu £30 miliwn.

Y project chwe blynedd hwn gan Amgueddfa Cymru yw’r project ailddatblygu mwyaf uchelgeisiol yn ei hanes. Cafwyd nawdd gan y Loteri Genedlaethol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru a llawer o gefnogwyr eraill.

Parhaodd Sain Ffagan, sydd ar gyrion Caerdydd, ar agor drwy gydol y project a bu cyfleoedd i drigolion Cymru o Fôn i Fynwy fod yn rhan ohono. Mae 120 o sefydliadau cymunedol, elusennau a grwpiau lleol wedi cyfrannu at yr ailddatblygu trwy gynnig cyngor ac arbenigedd. Mae dros 3,000 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu 21,000 o oriau o’u hamser. Cefnogwyd dros 100,000 o ddisgyblion ysgol, prentisiaid, artistiaid a lleoliadau gwaith. Nawr, bydd cyfleoedd i eraill rannu eu straeon, profiadau, gwybodaeth, casgliadau a sgiliau er mwyn sicrhau fod Sain Ffagan yn ddrych o fywyd yng Nghymru, o 230,000 o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw.

 

Bardd Genedlaethol Cymru Ifor ap Glyn:

Llenyddiaeth Cymru