Dewislen
English
Cysylltwch

Pedwar Prysur yn cwblhau 100 o gerddi mewn 24 awr

Cyhoeddwyd Gwe 5 Hyd 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Pedwar Prysur yn cwblhau 100 o gerddi mewn 24 awr
Rhwng pedair wal ac o fewn 24 awr, cyfansoddwyd 100 o gerddi gan bedwar bardd.

Cafwyd amrywiaeth arbennig o themâu a thestunau yng ngherddi’r pedwar dewr, Manon Awst, Caryl Bryn, Morgan Owen ac Osian Owen. Roedd cerdd am gath mewn peiriant golchi, am ardaloedd adnabyddus o bedwar ban byd, moliant i’r beiro bic ddu, a llu o geisiadau am gerddi cyfarch i dai myfyrwyr newydd ar hyd a lled y wlad.

Rhwng 12.00 pm brynhawn dydd Iau 4 Hydref a 12.00 pm brynhawn Gwener 5 Hydref, llwyddodd Manon, Caryl, Morgan ac Osian i ysgrifennu cant o gerddi rhyngddynt ar bynciau a ddewiswyd gan y cyhoedd. Gan ddefnyddio’r hashnod #Her100Cerdd, anfonwyd ceisiadau am gerddi ar bob math o bynciau – y difyr, difrifol, a’r doniol.

Draw ym mhentref Llanberis oedd cartref creadigol y beirdd eleni, gyda chysgod Yr Wyddfa ac awel Llyn Padarn yn guddfan berffaith i ganfod yr awen, hyd yn oed am dri o’r gloch y bore. Drwy gydol yr her, gosodwyd y cerddi fesul un ar wefan Llenyddiaeth Cymru, a’u rhannu ar wefannau cymdeithasol.

Cyn iddynt gychwyn ar yr her, soniodd sawl un ohonynt mai’r hyn oedd yn eu poeni fwyaf oedd na fyddai digon o geisiadau ac awgrymiadau yn eu cyrraedd. Doedd dim angen poeni o gwbl, gan fod 154 o geisiadau unigryw wedi dod i law, a hynny drwy Twitter, Facebook, dros e-byst a thrwy negeseuon personol.

 “Dyma’r profiad gorau a’r profiad gwaetha i mi gael erioed dwi’n meddwl,” meddai Osian Owen gyda dwy awr i fynd ar y cloc, “mae rhywun yn teimlo cymaint o wahanol emosiynau dros 24 awr – o flinder trwm i fod yn wirion bost.”

Dyma’r chweched tro y mae Llenyddiaeth Cymru wedi cynnal Her100Cerdd fel rhan o ddathliadau Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Erbyn hyn mae’r Her wedi sefydlu’i hun fel un o brif ddigwyddiadau llenyddol Cymru gyda channoedd yn cymryd rhan drwy anfon eu ceisiadau am gerddi a geiriau o anogaeth at y beirdd, a miloedd rhagor yn dilyn dros y we. Y canlyniad yw cofnod barddonol unigryw o hanes y diwrnod penodol hwnnw yng Nghymru, ac ar draws pedwar ban byd.

Mae rhai o’r uchafbwyntiau yn cynnwys cerdd o fawl i Rhys Meirion (#67), cerdd i ysbrydoli marched ifanc Cymru (#14), cerdd am Gatalwnia (#26) a cherdd am fagu plant (#43).

Cwblhawyd yr her ar 11.48 am yn union gyda cherdd addas iawn o’r enw ‘Terfyn.’ Pan holwyd Caryl Bryn am sut yr oedd hi’n teimlo o gwblhau’r dasg, atebodd:

“Dwi’n barod am fy ngwely, a dwi ddim isio barddoni am sbel go hir ar ôl heddiw.”

Gallwch weld yr holl gerddi yma: www.llenyddiaethcymru.org/our-projects/her-100-cerdd/

 

Uncategorized @cy