Dewislen
English
Cysylltwch

Rhaglen Gyrsiau Tŷ Newydd 2019: Dewch i ganfod yr awen ym mlwyddyn Darganfod Cymru

Cyhoeddwyd Iau 11 Hyd 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhaglen Gyrsiau Tŷ Newydd 2019: Dewch i ganfod yr awen ym mlwyddyn Darganfod Cymru
Pete Fowler

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi rhaglen o gyrsiau ysgrifennu creadigol Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer 2019. Â’r flwyddyn wedi ei chlustnodi fel Blwyddyn Darganfod Cymru gan Croeso Cymru, rydym yn annog pawb i ymweld â’n cartref rhwng y môr a’r mynydd i ganfod yr awen ac i feithrin eu sgiliau fel awdur.

Mae’r rhaglen newydd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ac encilion sy’n addas ar gyfer egin awduron sydd eisiau datblygu eu crefft yn ogystal â’r profiadol sydd â’u bryd ar finiogi eu hysgrifennu. Gallwch gofrestru ar bob cwrs nawr ar wefan Tŷ Newydd, gyda gostyngiad o 10% ar bob cwrs preswyl* tan ddiwedd Hydref gyda’r cod TN2019.

Ymysg y tiwtoriaid fydd yn arwain cyrsiau yn 2019 y mae Matthew Hall, awdur y ddrama fyd-enwog Un Bore Mercher / Keeping Faith; Alys Conran, awdur y nofel Pigeon, a enillodd wobr driphlyg Llyfr y Flwyddyn 2017 (Barn y Bobl, y Categori Ffuglen a’r Brif Wobr, oll yn Saesneg); a’r cyn-dditectif, Clare Mackintosh, sydd bellach yn awdur trosedd poblogaidd sydd wedi cyrraedd brig siartiau gwerthiant y Sunday Times. Byddwn hefyd yn croesawu Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru i’r ganolfan i arwain cwrs undydd, a bydd ei ragflaenydd, Gillian Clarke, yn dychwelyd i arwain dau Ddosbarth Meistr. Ymysg ein siaradwyr gwadd y bydd Rachel Joyce, awdur The Unlikely Pilgrimage of Harold Fry a Lyn Gardner, cyn-adolygydd theatr The Guardian.

Bydd yr arlwy Gymraeg yn cynnwys mwy nag erioed o gyrsiau undydd, yn cynnwys triawd o gyrsiau mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol yn edrych ar ddatblygu gwaith ar gyfer y prif gystadlaethau llên dan arweiniad Guto Dafydd, Angharad Price a Manon Rhys. Bydd golygyddion cylchgrawn Y Stamp yn cynnal encil ac yn galw am awduron newydd i ymuno â nhw i greu cynnwys, a bydd Jac Jones a Manon Steffan Ros yn cyd-arwain cwrs ar ysgrifennu a darlunio i blant mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru. Un o uchafbwyntiau’r arlwy Gymraeg ers blynyddoedd yw’r cwrs carlam ar y gynghanedd mewn partneriaeth â Barddas, a bydd yn dychwelyd dan ofal Peredur Lynch a Karen Owen yn 2019.

Meddai Leusa Llewelyn, Pennaeth Tŷ Newydd, “Mae Tŷ Newydd, â’i groeso cynnes Cymreig, yn bodoli er mwyn cynorthwyo awduron o bob cefndir, oedran a gallu i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. Gyda’n rhaglen newydd o gyrsiau, credwn fod rhywbeth yma i bawb, ac mae’r amrywiaeth yn cynnig cyfle i fynychwyr ddarganfod eu potensial fel awduron”

Ar bob cwrs, boed yn undydd neu’n breswyl, cewch fwyd a byrbrydau cartref wedi eu paratoi i chi gan ein cogydd preswyl, a chael mwynhau llonyddwch ysbrydoledig ein darn bach prydferth ni o Gymru.

Am ragor o wybodaeth am Dŷ Newydd, yn cynnwys straeon gan gyfranogwyr y gorffennol, ac i weld y rhaglen yn ei chyfanrwydd ewch draw i www.tynewydd.cymru neu i wneud cais am raglen brint cysylltwch â Thŷ Newydd: 01766 522811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

*ac eithrio Dosbarthiadau Meistr

Tŷ Newydd