Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd Mis Medi

Cyhoeddwyd Maw 4 Medi 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfleoedd Mis Medi

Cyfleoedd Mis Medi

Dyma restr o gyfleoedd a dyddiadau cau ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar FacebookTwitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

 

De Montfort Literature

Mae De Montfort Literature yn cynnig rhwng 5 a 10 o gyfleoedd i awduron ble byddant yn derbyn cyflog, ac yna bonws fel canran o werthiant unrhyw nofel a gyhoeddwyd, er mwyn ysgrifennu nofelau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.demontfortliterature.com/application/

 

Young Critics Gogledd Cymru

Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 16 – 30 mlwydd oed i ddatblygu sgiliau ym maes beirniadu yn y celfyddydau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://youngcriticsconwy.wordpress.com/

 

Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru

Cynigir pum ysgoloriaeth o swm penodol, £3000, i awduron newydd sydd eto i gyhoeddi cyfrol o’u gwaith eu hunain. Yn ogystal, cynigir un ysgoloriaeth ar gyfer awdur o dan 25 mlwydd oed. Dyddiad Cau: 5.00 pm, dydd Mawrth 11 Medi 2018.

Rhagor o wybodaeth yma: http://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/nawdd-awduron-cynlluniau-ysgoloriaethau-mentora-llenyddiaeth-cymru-nawr-ar-agor/

 

Cynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru

Mae’r Cynllun yn cynnig cefnogaeth a chyngor ymarferol i awduron, er mwyn datblygu darn o waith penodol tuag at safon cyhoeddi. Bydd Cynllun Mentora 2019 yn cychwyn gyda chwrs preswyl arbennig yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ym mis Chwefror 2019, gyda sesiynau mentora un-i-un i ddilyn yn y misoedd canlynol. Dyddiad Cau: 5.00 pm, dydd Mawrth 11 Medi 2018.

Rhagor o wybodaeth yma: http://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/nawdd-awduron-cynlluniau-ysgoloriaethau-mentora-llenyddiaeth-cymru-nawr-ar-agor/

 

Ysgoloriaeth Cefnogi Llenyddiaeth Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig swm o hyd at £1,000 er mwyn cynorthwyo awduron sydd ag anawsterau symudedd neu anableddau, sydd angen cyfarpar arbenigol neu gymorth. Dyddiad Cau: 5.00 pm, dydd Mawrth 11 Medi 2018.

Rhagor o wybodaeth yma: http://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/nawdd-awduron-cynlluniau-ysgoloriaethau-mentora-llenyddiaeth-cymru-nawr-ar-agor/

 

Gwobr Farddoniaeth Manceinion – 14 Medi

Gwobr o £10,000 ar gyfer y portffolio gorau o dair neu bum cerdd (cyfanswm o 120 o linellau). Ar agor i awduron newydd a phrofiadol dros 16 mlwydd oed.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www2.mmu.ac.uk/writingcompetition/poetry-prize/

 

Cystadleuaeth Pamffled i Ferched 2018 – 14 Medi

Mae Mslexia a’r Poetry Book Society yn cynnal dwy gystadleuaeth flynyddol ar gyfer barddoniaeth gan ferched, er mwyn magu cysylltiadau gwell gyda chyhoeddwyr yn y DU. Cyhoeddi gyda Seren Books yw’r wobr gyntaf.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://poetrybooksociety.submittable.com/submit/115072/womens-pamphlet-competition-2018

 

Shifft Script Lab – 15 Medi

Labordy Ysgrifennu ar gyfer awduron benywaidd ac aneuaidd yng Nghymru yw’r Shifft Script Lab. Mae’n darparu cyfleoedd i rannu a derbyn adborth ar eich gwaith.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://femscriptlab.com/shifft-script

 

Cystadleuaeth Canmlwyddiant Mary Vaughan Jones – 21 Medi

I ddathlu canmlwyddiant geni’r awdur Mary Vaughan Jones, dyma dair cystadleuaeth Gymraeg ar gyfer disgyblion cynradd yn Sir Conwy. Gwobrau gwych, gan gynnwys hambwrdd o lyfrau a chyfle i 24 o ddisgyblion gael gweithdy ysgrifennu creadigol gyda’r Prifardd Myrddin ap Dafydd.

Rhagor o wybodaeth ar y poster yma:

 

Gwobr Michel Déon – 23 Medi

Gwobr ar gyfer awduron ffeithiol-greadigol sy’n byw yn Iwerddon. Bydd awdur llyfr buddugol 2018 yn derbyn €10,000 ac yn traddodi Darlith Michel Déon yn Ffrainc yn 2019.

Rhagor o wybodaeth, a gwybodaeth ynglŷn â sut i bleidleisio yma: https://www.ria.ie/grants-and-awards/michel-deon-prize

 

Noon: Solstice Shorts 2018 – 30 Medi

Bydd Solstice Shorts 2018 yn digwydd ar draws Caeredin, Ynys Môn, Llundain ac Evesham (Gloucestershire) ar yr union run amser – hanner dydd. Maent yn galw am straeon byr neu gerddi heb fod yn fwy na 1000 o eiriau yn ogystal â darnau byr, hyd at 40 llinell, mewn Cymraeg, Saesneg neu Aeleg (gyda chyfieithiad) ar gyfer perfformiad.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://arachnepress.submittable.com/submit/121932/noon-solstice-shorts-2018

 

 

Literature Wales