Dewislen
English
Cysylltwch

Rhannwch stori ar Ddiwrnod y Llyfr

Cyhoeddwyd Llu 26 Chw 2018 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhannwch stori ar Ddiwrnod y Llyfr

Mae Diwrnod y Llyfr 2018 ar fin cyrraedd ac mae yna bob math o ffyrdd y gallwch chi ymuno â’r dathlu. Bydd amryw o ddathliadau a digwyddiadau ledled Cymru dros y cyfnod hwn – y dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau a darllen yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.

 

Dengys ymchwil fod darllen er mwyn pleser a mwynhad yn cael mwy o ddylanwad ar lwyddiant addysgol plant na statws cymdeithasol ac economaidd eu teulu (OECD, 2002), felly mae annog pobl i gael blas ar lyfrau ac i ddathlu’r mwynhad sydd ynghlwm â darllen yn bwysicach nag erioed.

Eleni, bydd yr ymgyrch yn annog pobl i rannu stori am ddeng munud o leiaf, er mwyn dathlu a mwynhau’r buddion sydd ynghlwm â darllen. Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, ei fod yn gyfle i rannu straeon a chariad at ddarllen gydag eraill: ‘Wrth ddathlu a rhannu straeon gallwn ysbrydoli ac annog eraill i wneud yr un peth. Dyw e ddim yn ddiwrnod i wisgo gwisg ffansi yn unig! Yn hytrach, mae’n gyfle i ddathlu rhywbeth rydym ni i gyd yn ei wneud bob dydd mewn rhyw fodd neu’i gilydd. Trwy rannu stori am ddeg munud gallwch ddechrau ysgogi cariad at ddarllen, sef un o’r anrhegion gorau erioed a fydd yn para am oes!’

 

Gallwch ymuno â’r hwyl ar-lein ar y gwefannau cymdeithasol, drwy gymryd rhan yn ein her #hunlyfr a rhannu llun ohonoch eich hun gyda’ch hoff lyfr, neu yn rhannu stori gyda rhywun neu rywbeth! Cofiwch ddefnyddio’r hashnod #hunlyfr, a byddwch yn gallu ennill pecyn o lyfrau yn wobr. Am fwy o wybodaeth a syniadau ewch i http://readingwales.org.uk/cy/diwrnod-y-llyfr/

 

‘Ein bwriad yn syml,’ meddai Angharad, ‘yw annog plant, disgyblion ysgol, rhieni a phobl ledled Cymru i dynnu hunlun yn eu dangos yn rhannu stori neu’n dal llyfr, ac i lwytho’r llun ar Twitter, Facebook neu Instagram gan ddefnyddio’r hashnodau #hunlyfr ac #diwrnodyllyfr. Wrth greu casgliad helaeth o hunluniau #hunlyfr, gallwn ddangos i’r byd bod Cymry o bob oed am ddathlu darllen, a’u bod wrth eu bodd â llyfrau o bob math.’

Plant a Phobl Ifanc