Dewislen
English
Cysylltwch

Datganiad gan Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru, 6 Gorffennaf 2017

Cyhoeddwyd Iau 6 Gor 2017 - Gan Yr Athro Damian Walford Davies
Datganiad gan Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru, 6 Gorffennaf 2017

Datganiad gan Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru, Yr Athro Damian Walford Davies yn ymateb i Adolygiad Annibynnol o Gymorth ar gyfer Cyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru Llywodraeth Cymru:

“Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Banel yr Adolygiad Annibynnol o Gymorth ar gyfer Cyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru, a gadeirir gan yr Athro Medwin Hughes, am ddadansoddiad gwybodus a diduedd o’r sector cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru. Mae’n fater o bryder (cyhoeddus) difrifol fod y Panel wedi cyflwyno darlun o Lenyddiaeth Cymru – a’r sector ehangach – sydd mor greiddiol wallus ac anwybodus. Nid yw dadansoddiad anesboniadwy wrthwynebus y Panel o Lenyddiaeth Cymru yn seiliedig ar dystiolaeth. Yn dilyn gwahoddiad gan Weinidog y Cabinet, mae Llenyddiaeth Cymru eisoes, mewn cyflwyniad ffurfiol i Lywodraeth Cymru, wedi cynnig sylwebaeth fanwl ar y rhannau mynych hynny o’r Adroddiad sy’n wallus, yn isel eu safon, yn oddrychol ac sy’n dangos diffyg gwaith ymchwil. Ar ben hynny, mae’n destun siom enbyd bod rhai sylwebwyr diwylliannol (a allai’n rhesymol fod wedi bod yn fwy amheugar), wedi gwneud y penderfyniad annoeth i gymryd y darlun o Lenyddiaeth Cymru a geir yn yr Adroddiad fel ffaith. Mae’n siŵr y byddant yn teimlo’r angen i ailystyried hynny yng ngoleuni’r dystiolaeth.

Mae’r adran honno o’r Adroddiad sy’n trafod Llenyddiaeth Cymru yn benodol yn dechrau drwy gamliwio’r trefniadau ynghylch fy ymddangosiad i fel Cadeirydd gerbron y Panel. Mae tystiolaeth ddogfennol lawn ar ffurf gohebiaeth rhwng yr Athro Hughes a minnau ym meddiant Llenyddiaeth Cymru (a Llywodraeth Cymru), sy’n dangos yn glir fy mod wedi ceisio cyfarfod â’r Panel ar ddau achlysur. Yn dilyn digwyddiad hollol annerbyniol yng nghyfweliad y Panel â swyddogion Llenyddiaeth Cymru ar 23 Mehefin 2016 – y mynnais ymddiheuriad mewn perthynas ag ef oherwydd methiant aelod o’r Panel i gydymffurfio â safonau proffesiynol – dywedais yn glir wrth yr Athro Hughes na fyddwn, ar sail egwyddor, yn mynychu Panel nad oedd yn meddu bellach ar unrhyw hygrededd parthed Llenyddiaeth Cymru. Pwysleisiais hefyd, cyn belled ag yr oedd y dystiolaeth a roddwyd i’r Panel gan swyddogion Llenyddiaeth Cymru yn y cwestiwn, eu bod nhw a minnau yn siarad ag un llais. Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru ymddiheuriad. Mae’n drueni fy mod wedi gorfod gofyn i’r Athro Hughes ddwywaith am ei farn ei hun ar yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod hwnnw ym mis Mehefin. Ar ôl cytuno yn y pen draw i gyfarfod â’r Panel yn ystod hydref 2016, dywedodd yr Athro Hughes wrthyf mewn llythyr dyddiedig 8 Tachwedd 2016 nad oedd unrhyw ddyddiad arall ar gael ar gyfer cyfarfod yn yr hydref. Dyma ffeithiau’r achos.

Yn y rhan o’r Adroddiad sy’n honni ei bod yn rhoi proffil o Lenyddiaeth Cymru, mae’r Panel hefyd yn gwneud honiadau ynghylch trefniadau llywodraethu Llenyddiaeth Cymru heb unrhyw dystiolaeth yn sail i hynny. Enghraifft amlwg o wybodaeth anghywir a ddefnyddiwyd gan y Panel fel rhan o’i ddadl gronnol nas seiliwyd ar dystiolaeth, yw canran cyllideb Llenyddiaeth Cymru a neilltuir ar gyfer costau staffio. Y ffigwr cywir yw 47% – nid 75%, fel y mae’r Adolygiad yn ei honni. Dwy esiampl yn unig yw’r rhain; mae’r ddogfen y mae Llenyddiaeth Cymru newydd ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru (sydd dros 5,000 o eiriau) yn manylu ar amrediad llawn ffaeleddau’r Adolygiad, ac yn gofyn cwestiynau sy’n mynnu atebion. Effeithir yn andwyol ar gasgliadau’r Panel gan ei anallu i nodi tystiolaeth ffeithiol a chynnig barn hyddysg, gyfannol ar y sector. Mae’r diffyg cysylltiad rhwng yr argymhellion a’r dystiolaeth a nodwyd yn un o fethiannau eraill yr Adroddiad.

Fel Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru, gwrthodaf yn y termau cryfaf posibl y darlun anghywir y mae’r Panel wedi’i lunio o Lenyddiaeth Cymru – rhywbeth a ddylai beri pryder mawr i’r sector cyfan. Mae’r camliwio hyn yn annerbyniol mewn dogfen gyhoeddus; mae’r sector, a Llywodraeth Cymru, yn haeddu gwell. Mae gennyf hyder llawn yn fy Mwrdd Cyfarwyddwyr deinamig ac amrywiol ac yn y tîm ardderchog ac ymroddedig o staff arbenigol sy’n rhannu fy ngweledigaeth fy hun o lenyddiaeth fel grym ar gyfer twf creadigol a newid cymdeithasol. Drwy lenyddiaeth, a chysyniad democrataidd o bwy sydd â’r pŵer a’r gallu i ‘ysgrifennu’, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i rymuso ac ymgysylltu â’r mwyafrif, yn hytrach na gwasanaethu’r ychydig.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn edrych ymlaen at barhau â’i ddeialog â’r sector a Llywodraeth Cymru yng ngoleuni’r uchod.”

 

Literature Wales