Dewislen
English
Cysylltwch

Tair ysgol yn ymryson ym mhrosiect Cipio’r Castell: Brwydr Slam

Cyhoeddwyd Iau 2 Chw 2017 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Tair ysgol yn ymryson ym mhrosiect Cipio’r Castell: Brwydr Slam

10 Mawrth 2017
Castell Caerffili

Wedi ei seilio ar ein prosiect hynod lwyddiannus, ‘Slam Cymru’, mae Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru, Cadw a Chyngor Caerffili wedi gwahodd tair ysgol leol i gystadlu yn erbyn ei gilydd yng Nghastell Caerffili mewn ymryson wedi’i ysbrydoli gan Macbeth gan William Shakespeare. Mae grwpiau Slam wedi’u sefydlu yn Ysgol Gartholwg, Ysgol Cwm Rhymni ac Ysgol Gwynllyw. Bydd Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru, yn arwain tîm Gartholwg, y Prifardd Aneirin Karadog yn arwain tîm Cwm Rhymni a Phrifardd Eisteddfod yr Urdd, Gwynfor Dafydd yn arwain tîm Gwynllyw.

Bydd y beirdd yn ymweld â’r ysgolion yn ystod yr wythnosau nesaf i gynnal gweithdai wedi’u hysbrydoli gan ddrama Macbeth, sy’n cael ei llwyfannu yn y Gymraeg gan y Theatr Genedlaethol yng Nghastell Caerffili rhwng 7-18 Chwefror 2017. Yn y gweithdai hyn bydd disgyblion yr ysgol yn ysgrifennu a llwyfannu cerddi Slam gwreiddiol gan ddatblygu sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu a dysgu am dechnegau ysgrifennu William Shakespeare a beirdd Cymru o’r un cyfnod.

Penllanw’r prosiect fydd y rownd derfynol yng Nghastell Caerffili ar ddydd Gwener 10 Mawrth sef Cipio’r Castell: Brwydr Slam, pan fydd y timoedd yn dod ben-ben â’i gilydd – Y cwestiwn ydy, pwy fydd yn cipio’r castell?

Ewch yma i ddarganfod mwy am gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o Macbeth.